Taliadau ar gyfer Deintyddiaeth y GIG
Byddwch yn talu un o’r tri thâl isod:
£20.00 – Mae hyn yn cynnwys archwiliad, diagnosis, gofal ataliol a chynllunio ar gyfer rhagor o driniaeth.
£60.00 – Mae hyn yn cynnwys pob triniaeth angenrheidiol sydd yn dod o dan y taliad £20.00 YNGHYD Â thriniaeth ychwanegol fel llenwadau, triniaeth sianel y gwreiddyn neu dynnu dannedd.
£203.00 – Mae’r taliad hwn yn cynnwys pob triniaeth angenrheidiol sydd yn dod o dan y taliadau £20.00 a £60.00 YNGHYD Â choronau, dannedd gosod a phontydd.
Ni chodir tâl am bresgripsiwn GIG.
Triniaeth am ddim gan y GIG neu gymorth i dalu costau iechyd drwy’r Cynllun Incwm Isel.
Bydd cleifion nad oes angen cwrs llawn o driniaeth arnynt, ond sydd angen gofal brys yn hytrach, yn talu un taliad o £30.00. Bydd hyn yn cynnwys archwiliad, diagnosis a gofal ataliol. Os oes angen, bydd yn cynnwys pelydrau-X ac unrhyw driniaeth sydd ei hangen arnoch i atal y cyflwr dan sylw rhag dirywio’n sylweddol neu i drin poen difrifol.
Dannedd Gosod – Mae atgyweiriadau i ddannedd gosod yn dal i fod yn rhad ac am ddim. Os byddwch yn colli neu’n difrodi’ch dannedd gosod fel nad oes modd eu hatgyweirio, bydd cost o £78.00 er mwyn eu hadnewyddu.