Neidio i'r prif gynnwy

Beth os nad ydw i'n gymwys am driniaeth yn rhad ac am ddim?

Cyn i’r driniaeth ddechrau bydd eich deintydd yn trafod y gweithdrefnau sydd eu hangen a’r gost debygol, yn seiliedig ar y system codi tâl deintyddol newydd. Bydd eich deintydd yn rhoi cynllun triniaeth ysgrifenedig i chi a chadarnhad o gostau’r driniaeth os:

  • Rydych yn gofyn amdano ar unrhyw adeg
  • Rydych chi’n gweld y deintydd hwnnw am y tro cyntaf
  • Rydych yn ystyried cael rhan o’ch triniaeth neu’r cyfan wedi’i wneud yn breifat
  • Rydych yn cael cwrs triniaeth cymharol hir neu gymhleth

Pan fyddwch yn talu am eich triniaeth byddwch yn cael derbynneb. Bydd eich deintydd yn trafod dulliau talu gyda chi. Mae gan y deintydd yr hawl i ofyn i chi dalu cyn i chi dderbyn eich triniaeth.

Ni fydd tâl wedi’i godi arnoch am fethu apwyntiadau – ond os byddwch yn parhau i fethu apwyntiadau efallai y byddant yn penderfynu peidio â chynnig triniaeth i chi yn y dyfodol. Gall deintydd hefyd derfynu cwrs o driniaeth os yw’r claf yn dreisgar neu’n gwrthod talu unrhyw dâl sy’n ddyledus.