Os darparwyd adferiad deintyddol (llenwad, llenwad gwreiddyn, mewnosodiad, argaen porslen neu goron) i chi yn rhan o’ch cwrs triniaeth, a’i fod yn methu o fewn 12 mis, dylai eich deintydd wneud unrhyw waith sydd ei angen i atgyweirio neu adnewyddu’r gwaith adfer yn rhydd o dâl. Er enghraifft os oes gennych lenwad sy’n disgyn ar ôl chwe mis, dylai eich deintydd ei newid yn rhad ac am ddim. Mae hyn hefyd yn berthnasol i offer deintyddol, megis dannedd gosod, pontydd a bresys.
Fodd bynnag, os byddwch yn colli neu’n difrodi’r offer, neu os oes angen ei newid oherwydd traul a gwisgo, bydd yn rhaid i chi dalu ffi ddeintyddol lawn y GIG er mwyn ei newid.
Os bydd angen gwaith atgyweirio neu amnewid eich triniaeth ddeintyddol o fewn 12 mis, dylech ddychwelyd at yr un deintydd GIG a wnaeth y gwaith gwreiddiol.