Neidio i'r prif gynnwy

Beth ddylwn i'w wneud os nad ydw i'n byw yng Nghymru ac angen mynediad at ddeintydd neu orthodeintydd brys?

Mae gwybodaeth am bwy y dylech gysylltu â nhw os oes angen triniaeth ddeintyddol frys arnoch i’w chael o dan ein Gwasanaethau Deintyddol Brys. Sylwch fod clinigau deintyddol brys yn gweithredu trwy apwyntiad yn unig. Peidiwch â mynychu ein clinigau deintyddol brys heb apwyntiad, gan na fyddwch yn gallu cael eich gweld.

Os oes angen i chi weld deintydd neu orthodeintydd (ar gyfer bresys sydd wedi’u difrodi sy’n achosi poen/ yn anghyffyrddus ac na ellir eu gadael nes i chi ddychwelyd adref), ac yn ystod oriau gwaith arferol practis deintyddol, fe’ch cynghorir i gysylltu â phractis deintyddol neu orthodeintydd sy’n agos at le rydych yn aros i weld a allant eich gweld fel claf brys.

Gan y byddwch yn cael eich gweld fel claf preifat, bydd ffioedd preifat yn berthnasol. Bydd cyfanswm y gost yn dibynnu ar ba driniaeth a ddarperir. Fe’ch cynghorir i drafod costau gyda’r practis cyn cael y driniaeth.