Neidio i'r prif gynnwy

A oes gen i hawl i weld fy nghofnodion deintyddol?

Mae gan gleifion y GIG a chleifion preifat hawl i gopïau o’u cofnodion deintyddol. I gael copïau, dylai cleifion wneud cais ysgrifenedig i’w deintydd ac, o dan rai amgylchiadau, darparu prawf adnabod. Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu ffi am gael gafael ar eich cofnodion (hyd at £50 am gofnodion a gedwir â llaw a hyd at £10 am gofnodion cyfrifiadurol) a hyn i dalu’r costau gweinyddol. Fel arfer rhaid i’r deintydd gyflenwi copïau o’r cofnod y gofynnir amdano o fewn 40 diwrnod.