Gallwch gael triniaeth ddeintyddol yn rhad ac am ddim gan y GIG, pan fydd y driniaeth yn dechrau os ydych:
- O dan 18;
- 18 oed ac mewn addysg amser llawn;
- Yn feichiog neu wedi cael babi o fewn y 12 mis diwethaf cyn i driniaeth dechrau;
- Claf mewnol y GIG a’r driniaeth yn cael ei chyflawni gan ddeintydd yr ysbyty;
- Claf allanol Gwasanaeth Deintyddol Ysbyty’r GIG;*
*Efallai y codir tâl am ddannedd gosod a phontydd
Gallwch hefyd gael triniaeth yn rhad ac am ddim, pan fydd y driniaeth eisoes wedi dechrau, os ydych:
- Yn derbyn neu’n cael eich cynnwys mewn dyfarniad rhywun sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac yn bodloni’r meini prawf.
- Yn derbyn neu’n cael eich cynnwys mewn dyfarniad rhywun sy’n derbyn Cymhorthdal Incwm, neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu gredyd gwarant Credyd Pensiwn; tudalen grwpiau incwm
- Â hawl i dystysgrif eithrio credyd treth y GIG ddilys neu wedi’ch enwi ar y dystysgrif honno;
- Wedi eich enwi ar dystysgrif HC2W ddilys
Gallwch gael help rhannol os:
Cewch eich enwi ar dystysgrif HC3W efallai y cewch rywfaint o help tuag at gost eich triniaeth ddeintyddol GIG.
Gwybodaeth i bensiynwyr ryfel a grwpiau eraill.
Archwiliad Deintyddol yn Rhad ac am Ddim ar y GIG
Byddwch yn cael archwiliadau deintyddol yn rhad ac am ddim os ydych:
- O dan 25 oed ar y diwrnod y cewch eich archwiliad yng Nghymru
- Yn 60 oed neu’n hŷn ar y diwrnod y cewch eich archwiliad yng Nghymru
Codir tâl priodol am unrhyw driniaeth ddilynol o ganlyniad i’r archwiliad rhad ac am ddim.
Gweler mwy o wybodaeth am y cynllun incwm isel: cymorth â chostau iechyd y GIG.