Adeiladau Clwyd,
Stryd Clwyd,
Y Rhyl
LL18 3LA
Gwasanaethau a ddarperir
Cefnogaeth wyneb yn wyneb, dros y ffôn a rhithwir. Gall unrhyw un alw heibio am goffi a sgwrs, bydd staff yn asesu'r unigolyn ac yn cynnig cefnogaeth emosiynol, yn cyfeirio os yw'n berthnasol, yn caniatáu mynediad at offer TG a ffonau os oes angen. Rydyn ni'n bwriadu dechrau hyrwyddo gweithgareddau dros yr wythnosau nesaf - Rhandiroedd, clwb darllen, cerdded. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth i'n cleientiaid ddefnyddio apiau lles ar eu ffonau.
Rhif Ffôn Cyswllt
07776 160664
Diwrnodau/oriau agor
Cynigir cefnogaeth wyneb yn wyneb, dros y ffôn a rhithwir ddydd Gwener, ddydd Sadwrn, ddydd Sul a dydd Llun, 10yb - 7yh.
Gwefan
Church Walks
Prestatyn
LL19 9BY
01352 872189
Gwasanaethau a ddarperir
Cynigir cefnogaeth trwy grwpiau Cymunedol, Cefnogaeth Wyneb yn Wyneb a Rhithwir. Llun - Gwener 9yb - 4.30yp. Diwrnodau Grŵp Cymunedol Prestatyn, dydd Mercher a dydd Iau, 10.30yb - 2yp.
Cefnogaeth gymunedol rhyw-benodol a chymysg. Yn cynnwys sesiynau Iechyd a Lles. "Paned a Gwneud", dysgu sgiliau DIY. Grwpiau Iechyd Meddwl Rhithwir. Grwpiau creadigol, yn cynnwys cynhyrchu ffilmiau byr a phynciau yn ymwneud â chelf. Yn ogystal â sesiynau i archwilio hanes a'r byd modern. Ein nod yw cefnogi pobl i integreiddio'n gymdeithasol, lleihau stigma iechyd meddwl a chreu cyfleoedd.