Neidio i'r prif gynnwy

Fedra'i

Mae Fedra’ i yn cynnig mynediad hawdd i gefnogaeth ar amryw faterion sydd, o bosib, yn eich poeni neu'n effeithio ar eich lles meddyliol megis….

  • Tor-perthynas
  • Trafferthion cyflogaeth
  • Gorbryder cymdeithasol
  • Galar
  • Pryderon am arian
  • Unigrwydd

Pwy ydym ni a beth ydym yn ei wneud?

Darperir cymorth Fedra’ i drwy ystod o wasanaethau y gellir cael hyd iddyn nhw’n hawdd ar draws Gogledd Cymru. Does dim angen cyfeiriad gan feddyg teulu. Mae hyn yn cynnwys:

Fedra i: Hybiau cymunedol

Lle gallwch siarad yn agored am eich problemau a chael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Fedra i: Gofal sylfaenol

Bydd Therapyddion Galwedigaethol Fedra I yn cael eu recriwtio i feddygfeydd MT ar draws Gogledd Cymru o Hydref 2021 i gefnogi cleifion mewn argyfwng sy’n profi iechyd meddwl a lles gwael.

Fedra i: canllawiau hunan gymorth

Mynediad i ystod eang o ganllawiau hunangymorth.