Neidio i'r prif gynnwy

Talpiau tatws gyda llysiau rhost a saws tomato

Rhestr siopa

  • 1 tun o domatos wedi’u torri’n fân (£0.32)
  • 4 taten trwy’i chrwyn (£0.67)
  • 1 corbwmpen (courgette) (£0.56)
  • 1 pupur coch (£0.60)
  • 1 tun o ffa cymysg/ffacbys (chickpeas) (£0.59)
  • 1 nionyn canolig neu 2 fach (£0.20)
    Cyfanswm cost = £2.94

Dull - Ar gyfer 4

  • Sgwriwch y tatws, eu torri’n dalpiau a’u rhoi mewn tun rhostio gyda 1 llwy ffwrdd o olew. Coginiwch mewn popty wedi’i gynhesu’n barod ar 180 gradd/ Nwy 6 am 30-40 munud.
  • Torrwch y nionyn, y gorbwmpen a’r pupur coch yn ddarnau mawr, rhowch nhw mewn tun rhostio arall gydag 1 llwy fwrdd o olew a pherlysiau o’ch dewis.
  • Rhostiwch am 10 munud.
  • Draeniwch y ffacbys a’u hychwanegu at y llysiau.
  • Rhostiwch am 10 munud arall.
  • I wneud y saws tomato, rhowch y tomatos wedi malu mewn sosban fach gydag 1 llwy de o saws Worcester.
  • Mudferwch am 20 munud.