Neidio i'r prif gynnwy

Smwddi ffrwythau

Rhestr siopa 

  • 1 bag (500g) aeron cymysg yr haf (£2.09)
  • 1 tun o eirin gwlanog wedi’u sleisio mewn sudd (£0.47)
  • 4 banana ganolig (£0.72)
  • 1 bag o afalau/gellyg (£0.90)
    Cyfanswm cost = £4.16

Cynhwysion 

  • 2 fanana ganolig (wedi’u torri’n fân)
  • 1/2 tun o eirin gwlanog wedi’u sleisio
  • 250g aeron cymysg wedi’u rhewi
  • 200g iogwrt naturiol plaen neu laeth hanner-sgim

Dull - Ar gyfer 4 

  • Rhowch 250g o ffrwythau cymysg wedi’u rhewi mewn jwg fesur fawr.
  • Pliciwch a thorrwch y bananas a’u rhoi gyda’r eirin gwlanog at y ffrwythau rhew.
  • Ychwanegwch yr iogwrt naturiol plaen neu’r llaeth at y jwg.
  • Gyda chymysgydd llaw (neu stwnsiwr) cyfunwch y cynhwysion i gyd.
  • Arllwyswch i wydr a’i fwynhau. Gweinwch gyda sleisys afalau.