1 nionyn canolig neu 2 fach (£0.20) Cyfanswm cost = £2.94
Dull (addaswyd o First Step Nutrition) - Ar gyfer 4
Pliciwch y tatws, eu torri’n fân a’u stwnsho gyda diferyn o lefrith i wneud y topin (gallech ddefnyddio hadau sesame hefyd)
Torrwch y nionyn, y gorbwmpen a’r pupur coch yn fân. Twymwch un llwy fwrdd o olew mewn sosban far ac ychwanegwch y nionyn, yna’r gorbwmpen a’r pupur coch.
Pan mae’r llysiau wedi meddalu ychwanegwch y tomatos, y ffacbys ac unrhyw berlysiau neu sbeisys ychwanegol.