Neidio i'r prif gynnwy

Chilli llysiau gyda thaten drwy'i chroen

Rhestr siopa 

  • 1 tun o domatos wedi’u torri’n fân (£0.32)
  • 4 taten trwy’i chrwyn (£0.67)
  • 1 corbwmpen (courgette) (£0.56)
  • 1 pupur coch (£0.60)
  • 1 tun o ffa cymysg/ffacbys (chickpeas) (£0.59)
  • 1 nionyn canolig neu 2 fach (£0.20)
    Cyfanswm cost = £2.94

Dull - (addaswyd o First Step Nutrition) Ar gyfer 4

  • Sgwriwch y tatws a’u pricio gyda fforc drostynt, rhowch nhw mewn popty poeth am 40 munud neu nes eu bod yn feddal.
  • Torrwch y nionyn, y gorbwmpen a’r pupur coch yn fân. Twymwch 1 llwy fwrdd o olew mewn sosban fawr ac ychwanegwch y nionyn, yna’r gorbwmpen a’r pupur.
  • Pan mae’r llysiau wedi meddalu ychwanegwch y tun tomatos a’r tun ffa cymysg ac 1 llwy fwrdd o bowdwr chilli.
  • Mudferwch am 10-15 munud.