Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am feichiogi os oes gennych gyflwr iechyd meddwl ar hyn o bryd neu y bu gennych yn y gorffennol

Os oes gennych gyflwr iechyd meddwl ar hyn o bryd, neu os oedd gennych gyflwr iechyd meddwl yn y gorffennol gall beichiogrwydd wneud i'r symptomau waethygu neu ddychwelyd o’r newydd. Ond ni fydd rhai pobl yn gweld unrhyw newid o gwbl.

Rydym yn eich cynghori i ystyried derbyn cwnsela cyn cenhedlu gyda naill ai eich meddyg teulu neu eich ymarferydd iechyd meddwl. Gallant roi cyngor ar sut y gallai beichiogrwydd effeithio ar eich iechyd meddwl a thrafod opsiynau er mwyn atal, gofalu a thrin yn addas.

Mae’n bwysig dros ben eich bod yn trafod eich opsiynau os ydych yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer eich cyflwr iechyd meddwl, a dylai hyn ddigwydd cyn i chi feichiogi os oes modd, oherwydd bod gofyn newid dos rhai meddyginiaethau neu gallai fod angen monitro ychwanegol yn ystod beichiogrwydd, tra bod rhai meddyginiaethau na ddylid eu cymryd yn ystod beichiogrwydd ac felly bydd angen ystyried dewisiadau eraill. Peidiwch â newid eich meddyginiaeth heb drafod hynny’n gyntaf gyda'ch ymarferydd gofal iechyd.

Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol yn ein hwb iechyd meddwl lle cewch ragor o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu i gael y cymorth y gallai fod ei angen arnoch.

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol

  • Hwb iechyd meddwl a lles  - Mae gan ein hwb iechyd meddwl a lles wybodaeth ac adnoddau defnyddiol i'ch helpu i gael y cymorth y gallai fod ei angen arnoch.
  • Meddyginaethau cyn ac yn ystod beichiogrwydd  - Dylai'r penderfyniad i ddechrau, darfod, parhau i ddefnyddio neu newid meddyginiaeth cyn neu yn ystod beichiogrwydd gael ei wneud gyda'ch darparwr gofal iechyd.