Neidio i'r prif gynnwy

Bwydydd sydd llawn protein

Dylai rhai bwydydd sydd llawn protein megis ffa, corbys, pysgod, wyau, cig, dewisiadau cig amgen a chnau gael eu cynnwys yn ddyddiol. Mae protein yn cefnogi’r atgyweirio a’r adnewyddu dyddiol sy’n digwydd i lawer o’n celloedd yn y corff. Yn ogystal â hyn, mae llawer o’r bwydydd yn darparu ffynhonnell gyfoethog o fwynau megis haearn, sydd ei angen i wneud celloedd gwaed coch iach a chefnogi’r cynyddiad yn y cyfaint gwaed yn ystod beichiogrwydd. Mae ffa a chorbys hefyd yn ffynhonnell ffibr gwych yn ogystal â phrotein.