Neidio i'r prif gynnwy

Bwyd llaeth a dewisiadau amgen

Mae bwyd llaeth a dewisiadau amgen megis llaeth, caws ac iogwrt yn ffynonellau llawn calsiwm sydd eu hangen er mwyn adeiladau ac amddiffyn ein hesgyrn. Mae’r bwydydd hyn hefyd yn cynnwys protein a rhai maetholion defnyddiol eraill. Bydd dewis llaeth hanner neu sgim, iogwrt braster isel a chawsiau â llai o fraster yn helpu i gyfyngu ar gymeriant braster heb gyfaddawdu ar galsiwm gan eu bod yn cynnwys symiau tebyg i fersiynau braster llawn/llaeth cyflawn. Mae’n bwysig gwirio labeli bwyd opsiynau bwyd llaeth amgen megis llaeth soia, ceirch, almon a chnau coco er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cyfnerthu â chalsiwm. Mae dewis mathau sydd heb eu melysu hefyd yn ddefnyddiol gan eu bod yn cynnwys llai o siwgr.