Neidio i'r prif gynnwy

Brasterau annirlawn

Mae brasterau annirlawn yn fathau iachach o fraster sy’n cynnwys olewau llysiau, had rêp, olewydd a blodyn yr haul. Mae’n bwysig cofio bod pob math o fraster yn uchel mewn egni ac felly defnyddiwch y rhain mewn symiau bach.

Nid yw bwyd a diodydd sy'n uchel mewn braster a/neu siwgr neu halen yn hanfodol yn y diet gan eu bod yn cynnwys ychydig iawn o faeth o gymharu â bwydydd o’r prif grwpiau bwyd. Gall eitemau megis cacenni, bisgedi, creision, melysion, a siocled eu cynnwys fel rhan o ddeiet iach a chytbwys ond dylid eu bwyta’n llai aml ac mewn symiau llai. Mae hyn yn hynod bwysig ar gyfer merched beichiog er mwyn helpu i amddiffyn iechyd y geg ac i osgoi magu mwy o bwysau nag y byddai ei angen i gynnal beichiogrwydd iach.