Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd y Cynllun yn cael ei hyrwyddo?

Hyrwyddir y Cynllun ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), tudalennau cyfryngau cymdeithasol ac mewn grwpiau cymorth bwydo ar y fron. Mae hefyd yn cael ei hyrwyddo gan Fydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd. Yn ogystal, mae'n rhaid i holl aelodau'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron gytuno i'w manylion gael eu cynnwys ar wefan Dewis Cymru yn yr adran Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron. Mae hyn yn sicrhau y gall mamau ddod o hyd i bob lleoliad croesawu bwydo ar y fron yng Ngogledd Cymru yn hawdd pan fyddant allan.