Neidio i'r prif gynnwy

Beth ddylwn i ei wneud os bydd cwsmer arall yn gofyn i mi ddweud wrth fam am roi'r gorau i fwydo ei babi ar y fron?

Mae’r gyfraith yng Nghymru (a Lloegr a’r Alban) yn datgan na all mam gael ei hatal rhag bwydo ei babi ar y fron mewn man cyhoeddus. Os bydd rhywun yn gofyn i chi atal mam rhag bwydo ar y fron gallech roi gwybod iddynt am y gyfraith (Deddf Cydraddoldeb 2010) a dangos iddynt daflen wybodaeth staff Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron os yw ar gael gennych. Gallech ofyn i’r sawl a fynegodd y pryder a fyddai’n teimlo’n fwy cyfforddus yn symud i eistedd yn rhywle arall os yw hynny’n briodol (rhaid ichi beidio â gofyn i’r fam symud).