Neidio i'r prif gynnwy

A oes angen i mi gael lle preifat ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron?

Na, does dim angen lle preifat. Mae'r rhan fwyaf o famau yn hapus i fwydo yn unrhyw le, yn enwedig pan fyddant yn gwybod y bydd croeso iddynt. Efallai y bydd rhai mamau’n gofyn os oes gennych chi le preifat, efallai os yw eu babi’n dal yn ifanc iawn a’u bod yn teimlo’n ansicr ynghylch bwydo, neu os oes ganddyn nhw fabi sy’n tynnu sylw’n hawdd; felly os oes gennych chi le preifat lle gall mam eistedd, mae croeso i chi gynnig hynny i fam sy'n holi. Nid yw byth yn briodol awgrymu bod mam yn bwydo ei babi yn y toiled na mynnu bod mam yn defnyddio man preifat os oes un gennych chi.