Neidio i'r prif gynnwy

SEXtember 2021 – Yn barod i chwarae?

Ni ddylai eich iechyd rhyw fod yn loteri!

Mae llun o cerdyn post Ymgyrch SEXtember 2021

Ydych chi a'ch partner wedi cydsynio?
Dim ond os ydych chi a'ch partner yn gallu rhoi cydsyniad y dylech gael rhyw.  Mae gan Brook, yr elusen iechyd rhyw, addysg rhyw a pherthnasau ganllaw defnyddiol yn ymwneud â chydsyniad

Oes gennych chi gondomau gyda chi?
Mae condomau ar gael mewn amrywiaeth eang o siopau, yn cynnwys fferyllfeydd ac archfarchnadoedd.  Mae condomau am ddim ar gael gan Cymru Chwareus neu drwy'r cynllun Cerdyn-C yng Nghymru.

Ydych chi wedi cael archwiliad iechyd rhyw yn ddiweddar?
Amddiffynnwch eich hun a'ch partner rhag STIs neu Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol. Gallwch gael archwiliad cynnil ac am ddim drwy wasanaeth Profi a Phostio sy'n hawdd i'w ddefnyddio Cymru Chwareus drwy fynd i'ch clinig iechyd rhyw lleol.

Ydych chi'n defnyddio dulliau atal cenhedlu'n rheolaidd?
Os nad ydych yn ceisio dod yn feichiog, bydd eich clinig iechyd rhyw lleol neu eich Meddyg Teulu yn gallu eich helpu i ystyried eich opsiynau a threfnu eich dull atal cenhedlu.  

Oes arnoch angen dulliau atal cenhedlu brys neu PEP HIV?
Os ydych wedi cael rhyw heb ddiogelwch, neu'n meddwl bod eich dull atal cenhedlu wedi methu, gallwch ddefnyddio dull atal cenhedlu brys. Mae dulliau atal cenhedlu brys ar gael yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd lleol, gan eich Meddyg Teulu, eich clinig iechyd rhyw agosaf neu’n adran achosion brys yr ysbyty.

Mae proffylacsis ôl-amlygiad (PEP) yn lleihau'r risg o gael HIV i bobl a all fod wedi cael eu hamlygu i HIV, yn cynnwys trwy ryw heb ddiogelwch, ymosodiad rhyw neu drwy rannu nodwyddau.  Os ydych yn meddwl bod angen PEP HIV arnoch, cysylltwch â'ch clinig iechyd rhyw agosaf neu ewch i'ch adran achosion brys.  

Oes angen i chi gysylltu â'ch gwasanaethau iechyd rhyw lleol?
Gall eich clinig iechyd rhyw lleol lleol, Meddyg Teulu neu'r Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhyw roi cymorth a chyngor manwl.  

Mae proffylacsis cyn-amlygiad (PrEP) yn helpu pobl i leihau eu risg o gael ei heintio gyda HIV o ganlyniad i'w hymddygiad rhywiol, neu amlygiad arall at y firws HIV. Mae PrEP yn cynnwys cymryd cyffuriau a fyddai fel arfer yn cael eu defnyddio i drin HIV, ac mae am ddim i'r rheiny sy'n byw yng Nghymru sy'n bodloni meini prawf penodol. Cysylltwch â'ch clinig iechyd rhyw lleol i drafod dechrau PrEP neu am fwy o gymorth a chyngor. 

 

Lawr lwytho adnoddau

 

Gwybodaeth am ein hymgyrch

Nod yr ymgyrch yw:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau iechyd rhywiol lleol - STI/HIV, atal cenhedlu, erthylu, ymosodiad rhywiol
  • Annog pobl i gael profion STI a HIV
  • Lleihau beichiogrwydd digroeso drwy hyrwyddo atal cenhedlu da
  • Lledaenu hyrwyddo iechyd rhywiol i osgoi heintiau, lleihau trosglwyddiad, yn enwedig diagnosis hwyr o HIV
  • Lleihau’r stigma o gwmpas STI a HIV
  • Codi proffil gwasanaethau iechyd rhywiol

Mae ein hymgyrch wedi'i ddylunio i godi ymwybyddiaeth am wasanaethau iechyd rhyw yng Ngogledd Cymru.  Os ydych yn byw yn rhywle arall yng Nghymru, gallwch gael gwybodaeth am wasanaethau sy'n agos at le’r ydych yn byw ar GIG 111 Cymru.

Os hoffech wybodaeth bellach am ymgyrch SEXtember, cysylltwch â Dr Ushan Andrady, Arweinydd yr Ymgyrch, Ymgynghorydd Iechyd Rhywiol/HIV yn BCU.SextemberCampaign@wales.nhs.uk.