Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau i blant cyn oed ysgol

eraillMae'n bwysig bod plant yn cael brechiadau atgyfnerthu cyn iddynt ddechrau'r ysgol. Pan fydd plant ifanc yn dechrau cymysgu fwy, mae'r risg o drosglwyddo clefydau y gellir eu hatal yn cynyddu - ac mae mwy o risg o achosion. Mae sicrhau bod eich plant y cael eu brechiadau atgyfnerthu yn eu hamddiffyn nhw, y chi, eich teulu chi a'r gymuned yn ehangach.

Fel arfer gelwir ar blant tair blwydd a phedwar mis oed i gael y brechiadau hyn. Bydd pob plentyn dwy a thair oed hefyd yn cael cynnig brechlyn ffliw chwistrell trwyn di-boen bob hydref.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu'r apwyntiadau. Os ydych chi wedi methu apwyntiad neu frechiad, cofiwch nad yw hi byth yn rhy hwyr. Cysylltwch â’ch meddygfa neu ymwelydd iechyd am gyngor.

 

Brechiadau atgyfnerthu cyn oed ysgol

Bydd plant tair blwydd a phedwar mis oed yn cael eu galw i'w meddygfa.

 

Brechlynnau eraill

Bob hydref, bydd pob plentyn dwy a thair oed (oed ar Awst 31) yn cael cynnig brechlyn ffliw chwistrell trwyn di-boen yn eu meddygfa. Mae’r brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn plant rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r ffliw. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau eraill o’r teulu a’r gymuned ehangach sy’n agored i niwed.

Mae’n bosibl y bydd plant o dan oed ysgol sydd â chyflwr iechyd hirdymor hefyd yn cael cynnig brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y gwahoddiadau hyn i sicrhau bod eich plentyn neu'ch plant yn gwella eu hamddiffyniad rhag afiechydon difrifol.