Neidio i'r prif gynnwy

Amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela

Mae'r brechlyn MMR yn frechlyn cyfunol sy'n ddiogel ac yn effeithiol sy'n amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela

Mae angen cwrs llawn (dau ddos) i amddiffyn yn llawn, sy'n gallu atal dros 99% o achosion o'r frech goch. Mae angen i gyfran fawr o'r boblogaeth (dros 95%) gael ei brechu'n llawn er mwyn atal achosion o'r frech goch yn y gymuned.

Mae'n bwysig bod y brechlyn MMR yn cael ei roi ar amser er mwyn diogelu yn y ffordd orau bosibl. Dylai'r dos cyntaf gael ei roi i'ch plentyn ar 12 mis oed, a'r ail ddos ar dair blwydd a phedwar mis oed. Fodd bynnag, gallwch ddal i fyny os byddwch yn colli unrhyw ddosiau.

 

Os tybiwch eich bod chi wedi colli brechlyn MMR

Os tybiwch eich bod chi neu'ch plentyn wedi colli brechlyn MMR gwiriwch â'ch cofnod brechu (yn y llyfr goch), meddygfa neu'ch ymwelydd iechyd am gyngor. 

Mae ein timau yn adolygu'r cofnodion a byddant yn gwahodd plant i ddal i fyny â'r brechiadau sy'n weddill. Os byddwn yn eich gwahodd i apwyntiad dal i fyny â dos a fethwyd o’r brechlyn MMR neu brechlyn eraill, sicrhewch eich bod yn manteisio ar y cyfle i roi hwb i’ch imiwnedd ar eich plentyn. Gall nyrsys ysgol neu dimau imiwneiddio ysgol hefyd roi'r cyfle i blant hŷn ddal i fyny â brechlynnau MMR a fethwyd os yw eu cofnod yn anghyflawn.

 

Lois Cernyw a Dr Sian Owen 

Lois Cernyw yn siarad â Dr Sian Owen, Paediatregydd Cynorthwyol Arbenigol yn y Gymuned a’r meddyg sy’n arwain imiwneiddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Lois yn gofyn y cwestiynau sy'n gallu mynd trwy feddwl y rhiant cyn mynd â'u plentyn i gael y brechiad MMR.

Ei ffilmio yn 2020.

🔵 Rhagor o wybodaeth am brechiadau eraill i blant cyn oed ysgol ac amserlen frechu arferol ni.

 

 

Ynglŷn â y frech goch, clwy'r pennau a rwbela