Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin brechiadau yn eu harddegau

11/01/23
Sut byddaf yn cael y brechlynnau i bobl ifanc?

Rydym yn cynnig y brechlynnau 3-mewn-1 a MenACWY i bob plentyn ym Mlwyddyn 9 mewn ysgolion ar draws Gogledd Cymru bob tymor y gwanwyn. Bydd disgyblion ym Mlwyddyn 8 yn cael cynnig y brechlyn HPV.

Bydd eich nyrs ysgol yn gwneud trefniadau i gynnig y brechlyn yn eich ysgol. Cadwch lygad am y dyddiadau, a fydd yn cael eu hyrwyddo yn yr ysgol. Fel arfer byddwch yn cael eich galw o'r dosbarth i gael eich brechiad.

Bydd eich nyrs ysgol yn cysylltu â chi os oes angen i chi gael brechiad neu frechiadau MMR.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd eich ffurflen ganiatâd wedi'i chwblhau fel y gallwch gael eich brechu. 

11/01/23
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cael fy mrechu?

Bydd eich nyrs ysgol neu aelodau o'n tîm imiwneiddio yn rhoi'r brechlynnau atgyfnerthu i bobl ifanc mewn clinig arbennig a gynhelir yn eich ysgol. Cadwch lygad am y dyddiadau, a fydd yn cael eu hyrwyddo yn yr ysgol. Bydd y brechlynnau'n cael eu chwistrellu yn rhan uchaf eich braich.

Gwisgwch ddillad a fydd yn caniatáu i'r nyrs neu'r brechwr roi eich brechlyn i chi yn rhan uchaf eich braich yn hawdd.

11/01/23
Pa gynhwysion sydd mewn brechlynnau?

Mae brechlynnau'n cael eu cynhyrchu'n ofalus iawn a'u profi'n llawn i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol.

Prif gynhwysyn brechlynnau yw ychydig bach o facteria neu firws sy'n achosi afiechyd. Nid oes unrhyw risg y bydd unigolyn iach yn dal y clefyd o'r brechlyn oherwydd bod y bacteria neu firws wedi'i wanhau neu ei ddinistrio gyntaf. Mae cyflwyno ychydig bach o'r firws neu facteria gwan i'ch corff yn annog eich system imiwnedd i adeiladu ei hamddiffynfeydd.

Maen nhw hefyd yn cynnwys nifer o gynhwysion eraill. Dim ond mewn symiau bach iawn y hyn yn bresennol ac fe’u defnyddir i’n helpu i oeri neu rewi brechlynnau, i helpu brechlynnau i bara’n hirach heb ddifetha, ac i leihau nifer y dosau sydd eu hangen arnom.

Gall rhai brechlynnau gynnwys gelatin, protein wy neu wrthfiotigau. Os oes gennych alergedd i unrhyw gynhwysion o frechlynnau neu os ydych yn pryderu am unrhyw gynhwysion, gallwch eu trafod gyda'ch nyrs ysgol.

Mae rhagor o wybodaeth am gynhwysion y brechlyn ar gael gan GIG 111 Cymru.

11/01/23
Beth yw'r sgîl-effeithiau?

Gall rhai pobl brofi sgîl-effeithiau cymedrol, gan gynnwys chwyddo, tynerwch neu gochni yn y man lle roddwyd y pigiad.

Mae'r rhain fel arfer yn diflannu'n gyflym. Mae sgîl-effeithiau mwy difrifol yn brin iawn.

11/01/23
Cael caniatâd

Cyn i chi dderbyn eich pigiadau atgyfnerthu, bydd angen i ni gael caniatâd i roi eich brechiadau i chi. Fel arfer mae angen caniatâd ysgrifenedig gan riant, gwarcheidwad neu ofalwr.

Bydd gofyn i chi ddychwelyd ffurflen ganiatâd wedi'i chwblhau cyn i'r brechiad ddigwydd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau a dychwelyd eich ffurflen ganiatâd o leiaf dau ddiwrnod cyn eich brechiad.

11/01/23
Brechiadau eraill

Os ydych ar ei hôl hi gyda brechiadau eraill y dylech fod wedi eu derbyn, efallai y bydd eich nyrs ysgol yn trafod sut y gallwch gael y rheiny.

Rydym yn annog pawb i gael eu brechiadau arferol cyn gynted ag y disgwylir, ond cofiwch nad yw byth yn rhy hwyr i wneud hynny. Bydd eich nyrs ysgol yn hapus i drafod eich opsiynau.

Cofiwch, mae llawer o weithleoedd yn gofyn i weithwyr wneud yn siŵr eu bod wedi cael y brechiadau arferol i leihau'r risg o salwch neu afiechyd.

Mae rhai cyflogwyr yn gofyn i weithwyr gael brechiadau ychwanegol er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad. Efallai y bydd angen rhagor o frechiadau ar gyfer rhai swyddi risg uwch.

11/01/23
Os oes gennych unrhyw gwestiwn

Os oes gennych gwestiynau neu os ydych yn poeni am eich brechiadau, siaradwch â'ch nyrs ysgol. ydd yn hapus i siarad â chi am eich pigiad atgyfnerthu ar gyfer pobl ifanc ac egluro mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.