Bydd eich pigiadau yn eu harddegau yn eich helpu i wella eich amddiffyniad rhag clefydau heintus. Maent yn eich amddiffyn rhag cyflyrau a all eich gwneud yn ddifrifol wael – fel tetanws, difftheria, polio a llid yr ymennydd.
- Mae'r rhan fwyaf o bobl eisoes wedi cael brechiadau ar gyfer tetanws, difftheria a pholio, pan oeddent yn fabi fel arfer. Roedd y rhain yn eich amddiffyn pan oeddech chi'n fach, ond bydd angen ychwanegu atynt nawr. Bydd eich pigiad atgyfnerthu 3-mewn-1 yn helpu i gynyddu'r amddiffyniad hwn nawr eich bod yn hŷn.
- Byddwch hefyd yn cael cynnig y brechlyn MenACWY, sy'n amddiffyn rhag llid yr ymennydd a chyflyrau cysylltiedig.
- Dylai pob oedolyn ifanc hefyd sicrhau y cânt eu hamddiffyn yn llawn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Mae angen ddau ddos o’r brechlyn MMR i sicrhau y cewch chi’r amddiffyniad gorau rhag y clefydau hyn. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y ddau bigiad cyn dechrau’r ysgol, ond efallai y gwnaiff eich nyrs ysgol neu aelod o’n tîm imiwneiddio eich gwahodd i gael y brechlyn hwn os yw ein cofnodion yn dynodi nad ydych chi wedi cael y ddau ddos.
Mae brechiadau'n helpu i'ch amddiffyn chi
Mae brechiadau'n helpu i'ch amddiffyn chi a'r rhai o'ch cwmpas. Bydd pawb ym Mlwyddyn 9 yn cael cynnig y brechiadau yn yr ysgol.
Mae'n bwysig eich bod yn cael eich brechlyn ar yr amser iawn. Peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl trwy oedi.
Mwy o wybodaeth
Darllenwch fwy am bigiadau atgyfnerthu i bobl ifanc ar GIG 111 Cymru.