Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi i Gwrdd â'ch Babi

Mae'r sesiwn cyn geni rhithwir hon yn cynnwys llawer o awgrymiadau defnyddiol i rieni newydd a dolenni i ffynonellau gwybodaeth defnyddiol eraill. Cymerwch eich amser i fynd drwyddo ar eich cyflymder eich hun a mwynhewch baratoi ar gyfer eich babi!

Beth ydych chi'n ei wybod am fwydo babanod ac o ble cawsoch chi'r syniadau hyn?

  • Cymuned/Cymdeithas
  • Ffrindiau
  • Rhieni
  • Cyfryngau
  • Perthnasau

Eisiau gwybod mwy?

Mae gan ein gwefan lawer o wybodaeth am fwydo ar y fron, gan gynnwys llyfrynnau a chyngor ar fwydo ar y fron. Ar y dudalen hon gallwch ddod o hyd i wybodaeth am adeiladu perthynas gariadus â’ch babi newydd, sut mae gwneud llaeth yn gweithio, sut beth yw bwydo ar y fron a sut i wybod bod bwydo ar y fron yn mynd yn dda.  

Gallwch hefyd ymuno â cwrs byr ar-lein rhad ac am ddim sy'n cael ei gynnal gan Gymdeithas Mamau sy'n Bwydo ar y Fron i ddysgu mwy am baratoi i fwydo ar y fron. 

Pob lwc gyda'ch genedigaeth a bwydo'ch babi ar y fron. Bydd y dyddiau yn hir, ond bydd y blynyddoedd yn fyr. Mwynhewch yr amser gwerthfawr hwn gyda'ch un bach.

Angen cymorth neu gefnogaeth gyda bwydo ar y fron?

Darganfyddwch ble y gallwch gael cymorth, cyngor a gwybodaeth am fwydo ar y fron.