Neidio i'r prif gynnwy

Adeiladu perthynas gariadus gyda'ch babi newydd

Mae cysylltu â'ch babi yn dda ar gyfer datblygiad ei ymennydd. Mae adeiladu perthynas gariadus gyda'ch babi heb ei eni yn hwyl, efallai y bydd hefyd yn eich helpu i addasu yn y dyddiau cynnar ar ôl yr enedigaeth. 

Syniadau Da ar gyfer dod i adnabod eich babi cyn yr enedigaeth

  • O tua 20 wythnos ymlaen mae babanod yn ymateb i synau - chwaraewch eich hoff gerddoriaeth neu canwch i weld a yw eich babi yn fwy egnïol neu a yw'n ymddangos fel pe bai'n mynd i gysgu 
  • Ceisiwch chwarae cerddoriaeth ysgafn neu ganu hwiangerdd pan fyddwch chi'n mynd i gysgu. Bydd eich babi yn cofio hyn a gallai helpu'r babi i gysgu ar ôl yr enedigaeth 
  • Pan fyddwch chi'n teimlo eich babi'n cicio, rhowch eich llaw ar eich bol, rhwbiwch yn ysgafn a dywedwch "mae'n iawn babi dw i yma!" 
  • Siaradwch â'ch babi fel petai ef neu hi yno o'ch blaen, dywedwch wrthynt beth rydych yn ei wneud. Mae'r babi heb ei eni yn adnabod lleisiau ei rieni
  • Meddyliwch am sut y bydd eich babi newydd yn edrych pan fyddwch yn cwrdd ar ôl yr enedigaeth

Cyswllt croen wrth groen 

Dylai cwtsh arbennig cyntaf y babi ar ôl yr enedigaeth bara o leiaf awr.

Mae cyswllt croen wrth groen yn bwysig i:

  • helpu'r babi i sefydlogi anadlu a churiad y galon 
  • cadw'r babi'n gynnes 
  • tawelu meddwl y fam a'r babi ar ôl yr enedigaeth 
  • helpu i roi cychwyn gwych i fwydo ar y fron 

Gall digwyddiadau esgor a genedigaeth wneud dysgu bwydo ychydig yn anodd i rai babanod yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf - bydd yn help mawr i gael cymaint o gyswllt croen wrth groen â'r babi â phosibl.

Deall ymddygiad eich babi newydd-anedig 

Darganfod mwy o wybodaeth am ddeall ymddygiad eich babi a sut beth yw bwydo ar y fron. 

Dod i adnabod eich gilydd 

Yn y dyddiau a’r wythnosau cynnar mae’n bwysig bod mamau a babanod yn aros yn agos at ei gilydd:  

  • Mam yn dysgu ymddygiad a "chiwiau" bwydo ei babi 
  • Mae mam yn magu hyder wrth drin a gofalu am ei babi 
  • Mae'r babi yn dysgu adnabod mam ac yn teimlo'n ddiogel 

Mae tadau/partneriaid yn wych am gamu i'r adwy pan fydd angen seibiant ar mam a helpu i setlo'r babi. Mae’n syniad da i’ch partner gael o leiaf awr o gyswllt croen wrth groen bob dydd i ddatblygu perthynas gyda’r babi. Mae “cot cyd-gysgu” yn syniad gwych ar gyfer helpu gyda rhiantu yn ystod y nos. Dysgwch ragor am sut y gall cael cymorth gan eich teulu helpu gyda bwydo ar y fron. 

Bwydo ar y Fron mewn modd Ymatebol 

Mae bwydo ar y fron mewn modd ymatebol yn dda ar gyfer datblygiad ymennydd y babi ac ar gyfer hyder y fam. 

Mae bwydo er cysur yr un mor bwysig â bwydo am fwyd: 

  • Cysur i'r babi – efallai'n teimlo'n ofidus neu'n unig  
  • Cysur i fam – gall y bronnau fod yn llawn neu efallai y bydd angen eistedd a chael cwtsh gyda’i phlentyn bach  
  • Ni fydd bod yn ymatebol a sensitif yn “difetha” eich babi  
  • Ni all babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron gael eu gorfwydo na'u “difetha” trwy fwydo'n aml!  
  • Ni fyddwch yn “gofyn am drwbwl” trwy ymateb i ymddygiad eich babi