Neidio i'r prif gynnwy

Llyfrynnau bwydo ar y fron a gwybodaeth ddefnyddiol arall

Paratoi ar gyfer bwydo ar y fron  

Mae gan ein gwefan wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i benderfynu sut rydych chi am fwydo'ch babi. 

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn siarad â'ch bydwraig gan y gallant ddweud wrthych am ddosbarthiadau cyn geni lleol. Gall y dosbarthiadau hyn roi mwy o wybodaeth i chi am fwydo ar y fron a rhoi cyfle i chi gwrdd â mamau eraill sy'n disgwyl babi ar yr un pryd â chi.

Efallai y byddwch eisiau lawrlwytho ap sydd wedi ennill sawl gwobr sef Baby Buddy App. Mae'r ap hwn yn caniatáu ichi greu eich cyfaill digidol eich hun a all eich cefnogi trwy gydol eich beichiogrwydd ac yn ystod y chwe mis cyntaf o fagu eich plentyn. 

 

Gall dyddiau cynnar bod yn fam fod yn anodd wrth i chi a'ch babi ddod dros yr enedigaeth. Bydd y rhan fwyaf o famau sydd wedi bwydo ar y fron yn dweud wrthych y gall gymryd amser i ddysgu sut i fwydo ar y fron, felly rhowch amser i chi'ch hun. Gallwch gael awgrymiadau a gwybodaeth ddefnyddiol am fwydo ar y fron – meithrin y dyfodol.

Adnoddau a Gwybodaeth Ddefnyddiol

Rhagor o wybodaeth am fwydo ar y fron o ffynonellau dibynadwy:

Angen cymorth neu gefnogaeth gyda bwydo ar y fron?

Darganfyddwch ble y gallwch gael cymorth, cyngor a gwybodaeth am fwydo ar y fron.