✔ Bydd babi sy’n cydio’n dda yn gallu bwydo'n effeithiol
✔ Gofynnwch am gymorth os nad ydych yn siŵr a yw'ch babi wedi cydio’n dda
✔ Anelwch at fwydo eich babi ar y fron tua 8 i 12 gwaith mewn 24 awr
✔ Y ffordd orau o atal bronnau anghyfforddus llawn ar ddiwrnod 3 i 5 yw i fwydo ar y fron yn aml.
Lleoli eich babi ar gyfer bwydo ar y fron
Mae mamau a babanod yn dysgu bwydo ar y fron gyda'i gilydd. Gall cael y lleoli a'r cydio yn gywir gymryd ychydig o amser - gofynnwch am gymorth os nad ydych yn siŵr.
- Daliwch eich babi yn wir agos at eich corff, dylai brest eich babi swatio’n agos at eich bron. Sicrhewch fod pen a chorff y babi yn eich wynebu chi
- Symudwch y babi fel bod ei drwyn gyferbyn â'ch teth
- Dewch â gên y babi yn agos i'ch bron - y pen wedi gogwyddo’n ôl erbyn hyn
- Yn awr, dylai eich teth fod yn pwyntio at drwyn eich babi. Arhoswch i'ch babi agor ei geg yn llydan. Dewch â'ch babi at y fron.
Os yw eich babi wedi cydio’n dda, dylai bwydo ar y fron fod yn gyfforddus. Os yw bwydo yn boenus - gofynnwch am gymorth cyn gynted â phosib gan fydwraig, ymwelydd iechyd neu Gyfaill Cefnogol hyfforddedig.
Cadw eich bronnau yn gyfforddus pan fo’ch llaeth yn cynyddu
Mae'r mesurau hyn yn arbennig o ddefnyddiol cyn bwydo ar y fron, ac mae hi'n haws i fabi gydio mewn bron feddal.
- Mae cynhesrwydd yn ysgogi llif llaeth a bydd yn helpu i feddalu’r fron, rhowch wlanen gynnes neu cymerwch fath neu gawod gynnes
- Tylinwch eich bronnau i feddalu a hyrwyddo llif y llaeth
- Gwasgwch y llaeth allan â llaw i feddalu'r deth a'r areola. Gwyliwch y fideo defnyddiol hwn gan Unicef ar wasgu llaeth allan â llaw am ragor o wybodaeth
- Defnyddiwch bwmp bron yn ysgafn i feddalu'r fron ond gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi'r fron gyda chynhesrwydd a thylinwch cyn ei defnyddio
- Rhowch gywasgiad oer e.e. gwlanenni oer (cadwch nhw'n barod mewn bag plastig yn yr oergell)
- Gwnewch yn siŵr bod eich bra yn ffitio'n gyfforddus ac osgowch wisgo bras â weiren oddi tanynt hyd nes bod eich bronnau wedi setlo i lawr
- Gall cymryd lladdwr poen neu feddyginiaeth wrthlidiol i helpu i leihau anghysur
Mae llawnder bron cynnar yn cael ei ddatrys yn gyflym fel arfer gyda'r dulliau syml a amlinellwyd uchod. Os yw'r boen a'r chwyddo yn parhau neu rydych yn teimlo'n anhwylus gyda symptomau tebyg i ffliw neu wres uchel, siaradwch â'ch Bydwraig, Ymwelydd Iechyd neu Feddyg.
Pa mor dda y mae eich babi yn bwydo ar y fron?
- A yw’ch babi wedi cael 8 ffîd neu fwy mewn 24 awr?
- A yw’ch babi yn bwydo rhwng 5 a 40 munud ar bob ffîd?
- A yw’ch babi yn gyffredinol dawel ac ymlacedig tra'n bwydo ac yn ymddangos yn fodlon wedi'r rhan fwyaf o ffîdiau?
- Pan mae eich babi dros 3 diwrnod oed, a allwch chi glywed y babi yn llyncu yn aml yn ystod ffîdiau?
- A yw’ch babi yn cael 6 neu fwy o glytiau gwlyb y dydd (ar ôl y 5 niwrnod cyntaf)?
- A yw’ch babi yn cynhyrchu o leiaf 2 faw lliw melyn sy'n fwy na maint darn £2 (ar ôl y 5 niwrnod cyntaf)?
- A yw’ch babi yn ôl i'w bwysau ar enedigaeth erbyn 14 diwrnod?
Os ‘na’ yw’r ateb i unrhyw rai o'r cwestiynau hyn, siaradwch â'ch Bydwraig neu Ymwelydd Iechyd.
Bwydo ar y fron a rhannu gwely
Mae llawer o famau yn gweld bod bwydo eu babi tra'n gorwedd i lawr yn y gwely yn eu helpu i ymdopi â bwydo yn y nos ac yn eu helpu i gael mwy o seibiant ond rhaid gwneud hyn yn ddiogel. Gellir cael gwybodaeth bellach yn llyfryn Unicef ar ofalu am eich babi yn y nos ac wrth gysgu.
Awgrymiadau da ar gyfer pob cyntun, nid yn unig ar gyfer y nos:
- Trafodwch fwydo yn ystod y nos - gofynnwch i'ch Bydwraig neu Ymwelydd Iechyd ddangos i chi sut i leoli eich hun a'ch babi yn ddiogel ar gyfer bwydo ar y fron tra'n gorwedd i lawr yn y gwely
- Ni ddylai eich babi fod rhwng dau oedolyn wrth fwydo yn y gwely
- Peidiwch fyth â lapio neu rwymo eich babi - mae angen i’ch babi ddefnyddio ei freichiau a'i goesau i gyfathrebu â chi tra yn y gwely
- Peidiwch fyth â rhoi eich babi mewn sach gysgu wrth fwydo
- Lleolwch got eich babi yn agos i'ch gwely i wneud trosglwyddo’r babi yn rhwyddach
- Rhowch eich babi i orwedd ar gynfas cot wrth fwydo a defnyddiwch hyn i helpu trosglwyddo’r babi i'r cot