Dewch i wybod a ydych yn gymwys ar gyfer triniaethau COVID-19.
Gallai cleifion y GIG sydd mewn mwy o berygl o gael COVID-19 fod yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19 gartref drwy Wasanaeth Gwrthfeirysol BIPBC.
Yn y lle cyntaf, comisiynodd GIG Cymru Wasanaeth Gwrthfeirysol Cenedlaethol Cymru (NAVS) mewn ymateb i'r effaith sylweddol a gafodd COVID-19 ar systemau iechyd a gofal iechyd y boblogaeth. Daeth triniaeth ar gyfer COVID-19 ar gael i bobl nad ydynt yn yr ysbyty, ond sy’n cael eu hystyried mewn mwy o berygl o ddod yn ddifrifol wael a chael eu derbyn i’r ysbyty. Argymhellir bod y triniaethau hyn yn cael eu rhoi ar waith o fewn 5 diwrnod o ddechrau eich symptomau i fod o'r budd mwyaf.
Yng Nghymru, mae’r triniaethau hyn yn cael eu rhoi drwy eich Bwrdd Iechyd Lleol.
Mae triniaeth ar gyfer COVID-19 ar gael i unigolion nad ydynt yn yr ysbyty, ond sy’n cael eu hystyried mewn mwy o berygl o ddod yn ddifrifol wael a chael eu derbyn i’r ysbyty. Bydd hyn yn cynnwys rhai pobl, ond nid pawb, a gafodd eu cynghori i warchod (shield) eu hunain yn ystod y pandemig. Mae gan rai pobl a oedd yn gwarchod eu hunain yn flaenorol risg is o lawer o glefyd difrifol yn dilyn brechiad COVID-19.
Mae'r grŵp risg uchaf yn cynnwys pobl sy'n dod o dan y categorïau canlynol:
O 1 Chwefror 2024 ymlaen, ni fyddwch yn gallu archebu profion llif unffordd ar-lein drwy borth ‘order lateral flow tests’Gov.uk. Yn hytrach, dylid casglu profion o fferyllfeydd cymunedol sy'n rhan o’r cynllun. Chwiliwch am y fferyllfeydd sy'n cymryd rhan yn eich ardal leol drwy’r wefan GIG 111 – GIG 111 Cymru – Fferyllfeydd.
O 1 Chwefror 2024 ymlaen, ni fyddwch yn gallu cofnodi canlyniadau eich profion llif unffordd ar-lein ar borth ‘results reporting’ Gov.uk. Yn hytrach, dylid adrodd am ganlyniadau positif yn uniongyrchol trwy'r porth hunangyfeirio ar-lein – ffurflen Hunan-gyfeirio Gwrthfeirysol COVID-19 neu drwy ffonio GIG 111 ar gyfer pobl na allant gael mynediad at y porth ar-lein.
Unwaith y bydd y cyfeiriad wedi cael ei gwblhau, byddwn yn cysylltu gyda chi yn ôl y prosesau presennol. Fel arfer, bydd hyn o fewn 48 awr, ond efallai y bydd yn cymryd yn hirach ar benwythnosau ac ar wyliau banc. Bydd triniaeth yn cael ei threfnu i chi os ystyrir yn briodol.
Nodwch fod ein gwasanaeth yn cael ei staffio o ddydd Llun i ddydd Gwener o fewn oriau gwaith.