Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar driniaethau COVID-19

Dewch i wybod a ydych yn gymwys ar gyfer triniaethau COVID-19.

Beth yw Gwasanaeth Gwrthfeirysol COVID-19 BIPBC?

Gallai cleifion y GIG sydd mewn mwy o berygl o gael COVID-19 fod yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19 gartref drwy Wasanaeth Gwrthfeirysol BIPBC.

Yn y lle cyntaf, comisiynodd GIG Cymru Wasanaeth Gwrthfeirysol Cenedlaethol Cymru (NAVS) mewn ymateb i'r effaith sylweddol a gafodd COVID-19 ar systemau iechyd a gofal iechyd y boblogaeth. Daeth triniaeth ar gyfer COVID-19 ar gael i bobl nad ydynt yn yr ysbyty, ond sy’n cael eu hystyried mewn mwy o berygl o ddod yn ddifrifol wael a chael eu derbyn i’r ysbyty. Argymhellir bod y triniaethau hyn yn cael eu rhoi ar waith o fewn 5 diwrnod o ddechrau eich symptomau i fod o'r budd mwyaf.

Yng Nghymru, mae’r triniaethau hyn yn cael eu rhoi drwy eich Bwrdd Iechyd Lleol.

Pwy sy’n gymwys i gael y triniaethau hyn?

Mae triniaeth ar gyfer COVID-19 ar gael i unigolion nad ydynt yn yr ysbyty ond yr ystyrir eu bod yn wynebu'r risg fwyaf o fynd yn ddifrifol wael a chael eu derbyn i'r ysbyty. Bydd hyn yn cynnwys rhai pobl, ond nid pawb a oedd ar y rhestr warchod yn ystod y pandemig. Mae gan rai pobl a oedd yn gwarchod eu hunain o'r blaen risg llawer is o glefyd difrifol yn dilyn brechiad COVID-19.

O 13 Mehefin 2024 ymlaen, mae'r meini prawf cymhwysedd wedi'u diweddaru i gynnwys y rhai isod. Os yw'r isod yn berthnasol i chi efallai y byddwch chi'n gymwys i gael triniaeth gwrthfeirysol COVID-19:

  • Pobl > 85 oed
  • Pobl sy'n byw mewn cartref gofal:
    • Yn > 70 mlwydd oed
    • neu sydd â BMI > 35kg/m2
    • neu os oes gennych ddiabetes
    • neu os oes gennych fethiant y galon
  • Pobl ar y rhestr aros am drawsblaniad organau
  • Pobl sydd yn y camau terfynol o fethiant y galon sydd â dyfeisiau cymorth fentriglaidd hirdymor
  • Pobl â syndrom Down ac anhwylderau genetig eraill
  • Pobl â rhai mathau o ganser a'r rhai sydd wedi cael triniaethau canser o fewn y 12 mis diwethaf (cemotherapi, radiotherapi a llawdriniaeth)
  • Y rhai â chyflyrau penodol sy'n effeithio ar y gwaed neu sydd wedi cael trawsblaniad bôn-gelloedd haematolegol
  • Pobl â chlefyd y crymangelloedd
  • Pobl â chlefyd cronig yn yr arennau (CKD) cam 4 neu 5 neu drawsblaniad aren
  • Unigolion â chyflwr difrifol ar yr iau (fel sirosis neu drawsblaniad iau)
  • Y rhai a gafodd drawsblaniad organ
  • Pobl â chyflyrau awtoimiwn neu ymfflamychol penodol (fel arthritis gwynegol neu glefyd llidiol y coluddyn) a allai fod yn derbyn rhai meddyginiaethau
  • Pobl â chyflyrau sy'n effeithio ar anadlu (gan gynnwys y rhai ag asthma sy'n cymryd meddyginiaethau sy'n eu gwneud yn fwy tebygol o gael heintiau, neu COPD)
  • System imiwnedd wannach oherwydd cyflwr neu feddyginiaethau penodol
  • Pobl â HIV neu AIDS
  • Pobl â chyflwr niwrolegol prin (fel sglerosis ymledol, clefyd Huntington, clefyd niwronau motor neu myasthenia gravis)

Ble i gael mynediad at brofion llif unffordd?

Gellir casglu profion llif unffordd o fferyllfeydd cymunedol sy'n cymryd rhan o'r ymgyrch. Chwiliwch am y fferyllfeydd sy'n cymryd rhan yn yr ymgyrch yn eich ardal leol drwy wefan NHS 111 (NHS 111 Wales - Search Results).

 

Beth i'w wneud os ydych chi'n cael prawf COVID-19 positif? Rhowch wybod am ganlyniadau profion COVID-19 positif yn uniongyrchol drwy'r porth hunan-gyfeirio ar-lein, Canllawiau ar driniaethau COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales), sydd ar gael ar wefan Rhyngrwyd Betsi neu drwy ffonio 03000 850819 neu NHS111.

 

Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, bydd gwasanaeth gwrthfeirysol y Bwrdd Iechyd yn cysylltu yn unol â’r prosesau presennol. Bydd hyn fel arfer o fewn 48 awr, ond gall gymryd mwy o amser ar benwythnosau a gwyliau'r banc. ​ Bydd triniaeth yn cael ei threfnu os yn briodol. Sylwch fod ein gwasanaeth wedi'i staffio ar hyn o bryd o ddydd Llun i ddydd Gwener o fewn oriau gwaith

 

 

Sut y bydd rhywun yn cysylltu â mi?

Unwaith y bydd y cyfeiriad wedi cael ei gwblhau, byddwn yn cysylltu gyda chi yn ôl y prosesau presennol. Fel arfer, bydd hyn o fewn 48 awr, ond efallai y bydd yn cymryd yn hirach ar benwythnosau ac ar wyliau banc. Bydd triniaeth yn cael ei threfnu i chi os ystyrir yn briodol.

Nodwch fod ein gwasanaeth yn cael ei staffio o ddydd Llun i ddydd Gwener o fewn oriau gwaith.