Neidio i'r prif gynnwy

Accordion a

26/11/20
Rwy'n teimlo fy mod i'n cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, ble alla i gael cefnogaeth?

Os ydych chi'n mynd trwy gyfnod anodd neu os ydych chi'n poeni am sut rydych chi'n teimlo, rydyn ni'n deall y gall hyn fod yn frawychus ac yn ofidus iawn. Mae’n bwysig sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun, a bod llawer o lefydd y gallwch chi gael gwybodaeth a chefnogaeth dda.

Cyngor: Os ydych yn teimlo'n barod, siaradwch gydag oedolyn dibynadwy neu ffrind agos am sut rydych yn teimlo, ac yn aml iawn maent yn gallu eich helpu i ddod o hyd i gefnogaeth. Os ydych yn yr ysgol neu'r coleg, bydd cymorth cyfrinachol ar gael fel arfer, neu gymorth i gael mynediad at wasanaethau. Gallwch hefyd gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth trwy Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eich Awdurdod Lleol.

Mae'r gefnogaeth y gallwch ei chael yn amrywio o ardal i ardal, yn dibynnu ar ble rydych yn byw, ond fe fydd Gwasanaeth CAMHS yn eich Sir leol. Y cam cyntaf tuag at gael help gan CAMHS fel arfer yw eich bod yn cael eich atgyfeirio am asesiad gan CAMHS. Gall yr atgyfeiriad (referral) hwn ddod gan eich rhieni / gofalwyr, neu chi eich hun os ydych chi'n ddigon hen (yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw). Mae gweithwyr proffesiynol fel athro neu feddyg teulu (bydd y mwyafrif o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau ffôn) hefyd yn gallu atgyfeirio mewn rhai ardaloedd. Os ydych chi'n cael eich cefnogi gan y gwasanaethau cymdeithasol, tîm ieuenctid, neu wasanaeth yn eich ysgol, efallai y byddan nhw'n gallu eich cyfeirio chi hefyd.

Os nad ydych chi'n barod i siarad â rhywun rydych chi'n ei adnabod neu os ydych yn hunanynysu peidiwch â phoeni. Gallwch o hyd gael gafael ar linellau cymorth cyfrinachol ac adnoddau ar-lein defnyddiol. Mae www.dewis.wales yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi. Isod mae linciau defnyddiol eraill at wasanaethau sy'n gallu cynnig cymorth:

HWB CYMRU: Gweler yma chwe rhestr chwarae i’ch arwain chi at ystod eang o adnoddau ar-lein i’ch helpu chi drwy’r cyfnod clo a thu hwnt. Ym mhob un o’r rhestr chwarae, fe welwch wefannau a ap hunangymorth, llinellau cymorth a mwy, sydd yma i gefnogi eich iechyd meddwl a’ch lles.

https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/e53adf44-76cb-4635-b6c2-62116bb63a9a/cy?_ga=2.151518460.459291157.1604913013-1431377124.1568902089

CALM HARM: Ap Symudol i helpu pobl ifanc yn eu harddegau i wrthsefyll neu reoli'r ysfa i hunan-niweidio (Am ddim)

 

CHILDLINE: www.nspcc.org.uk /0800 1111

HARMLESS: Yn cynnig cyngor a gwybodaeth am bobl ifanc a allai fod yn hunan-niweidio neu brofi meddyliau o'r fath. www.harmless.org.uk

YOUNGMINDS: www.youngminds.org.uk/

0808 802 5544

SELF HARM UK: Mae'n cynnig lle ar-lein i siarad a gofyn cwestiynau am bryderon yn eu bywyd. www.selfharm.co.uk

RETHINK MENTAL ILLNESS: www.rethink.org.uk/ 0300 5000 927

National Self Harm Network: Mae NSHN yn fforwm ar-lein sy'n caniatáu ichi siarad â phobl eraill mewn amgylchedd diogel, dan reolaeth. www.nshn.co.uk

THE MIX: 0808 808 4994

PAPYRUS: Papyrus HOPElineuk 0800 068 41 41 www.papyrus.org.uk

YOUNGMINDS CRISIS MESSENGER: Tecstiwch YM i 85258 am gyngor 24/7 am ddim 

HEADSPACE: Ap ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) gyda llawer o wahanol raglenni i gefnogi iechyd meddwl

SANE: Mae Saneline yn gweithredu o 4.30pm i 10.30pm bob dydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl 0300 304 7000

WELLMIND: Datblygwyd yr Ap hwn gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS) ac mae'n helpu gyda symptomau pryder ac iselder. Mae'n ffordd wych o gadw golwg ar eich meddyliau a'ch teimladau.

CATCH THAT THOUGHT: Mae'r ap hwn yn wych i fonitro meddyliau ac emosiynau anodd , pan fyddwch chi'n eu profi ac i gofnodi ym mhle yr ydych chi pan gewch y meddyliau hynny.

THE STRESS AND ANXIETY CAMPANION: Mae'r ap yn annog meddwl yn bositif trwy ei broses Therapi Ymddygiad Gwybyddol (Cognitive Behaviour Therapy – CBT) symlach ac yn eich helpu i ddeall sbardunau.

THRIVE: Mae'r ap hwn yn eich helpu i gasglu'ch meddyliau a deall eich emosiynau.

MEIC: MEIC yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Gallwch ganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfaoedd anodd, a bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall. Ni fyddwn yn eich barnu a byddwn yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wneud newidiadau - https://www.meiccymru.org/

Mind: http://www.mind.org.uk/

26/11/20
A oes pethau y gallaf i eu gwneud i deimlo'n well?

Mae pethau'n rhyfedd a gwahanol iawn ar hyn o bryd ac weithiau gall deimlo’n llethol ac anodd. Efallai y byddwch yn teimlo'n bryderus neu'n ansicr, a hyd yn oed yn drist ar brydiau. Mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac mae bob un ohonom yn teimlo fel hyn weithiau, yn enwedig pan mae llawer o bethau’n newid a ninnau’n methu gwneud hyn y pethau y byddwn fel arfer yn eu gwneud. Pan mae’r teimladau hyn yn gwrthod diflannu ac yn digwydd yn aml gall fod angen mwy o gymorth arnoch (Mae rhagor o wybodaeth yng Nghwestiwn 2 a Chwestiwn 3).

Er mwyn helpu gyda'r teimladau hyn ac aros yn bositif ac yn iach, gallai rhai o'r pethau isod helpu.

Cadwch mewn cysylltiad: Mae'n bwysig iawn cadw mewn cysylltiad â'r rhai rydych chi'n eu caru ac yn ymddiried ynddynt. Gall fod yn anodd gyda'r cyfyngiadau sy’n rhwystro pobl rhag cyfarfod wyneb yn wyneb, ond gall sgwrs fer dros y ffôn neu alwad rithiol eich helpu chi i deimlo'n fwy cysylltiedig. Mae gallu siarad trwy'ch teimladau a chael teimlad o normalrwydd yn gallu gwneud ichi deimlo'n well. Mae llawer o blant a phobl ifanc heb gysylltiad rhyngrwyd neu ffôn symudol wedi dechrau ysgrifennu llythyrau i’w hanwyliaid neu wedi dod yn ffrindiau trwy lythyr (pen pals), ac mae'n ffordd wych o gadw mewn cysylltiad ac yn rhywbeth y gall aelod o'ch teulu eich helpu i’w wneud.

Weithiau mae'n hawdd anghofio y gall cymorth fod yn nes atoch nag y tybiwch, ac mae bod gartref mwy gyda’ch teulu / gofalwyr / gwarcheidwaid yn rhoi mwy o amser i siarad a threulio amser gyda'ch gilydd. Rydyn ni i gyd eisiau dianc oddi wrth y byd tu allan weithiau, ond gall sgwrsio gyda'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw bob dydd wneud ichi deimlo'n fwy positif ac yn llai ar eich pen eich hun. Mae bod yn onest am eich teimladau gyda’ch teulu / gofalwyr/ gwarcheidwaid a thrafod sut y gallwch chi fod yn fwy cysylltiedig â'r bobl sy'n bwysig i chi yn gam cyntaf gwych.

Pwysig: Weithiau nid yw'r pethau y credwn eu bod yn ein cadw ni mewn cysylltiad ag eraill bob amser yn llesol inni. Gall treulio llawer iawn o amser ar gyfryngau cymdeithasol (social media) wneud inni deimlo’n ddrwg amdanom ein hunain. Er y gall fod yn ffordd dda o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, mae'n bwysig cofio nad yw pob un o'r delweddau a gwybodaeth a gyflwynir yn gywir nac yn adlewyrchiad cywir o fywydau pobl go iawn. Os byddwch chi'n dechrau teimlo fod eich hwyliau'n newid pan fyddwch chi'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, gallai fod yn syniad da cymryd hoe am ychydig ddyddiau a gwneud rhai o'r pethau eraill a awgrymir isod.

Cadwch yn egnïol: Mae ymchwil gwyddonol yn dweud wrthym mai un o'r ffyrdd gorau i deimlo'n dda yw gwneud ychydig o ymarfer corff. Nid yw ymarfer corff bob amser yn golygu cystadlu mewn campau, er bod hynny'n ffordd wych o deimlo'n dda. Weithiau gall mynd am dro neu loncian, chwarae mewn cae neu yn y parc, gwneud gweithgaredd corfforol adref, nofio, sgipio, rhedeg, dawnsio ac ati eich helpu. Gall gwneud ychydig bach bob dydd wella eich hwyliau a'ch hyder.

Mae'n dda clywed bod chwaraeon wedi'u trefnu dan do yn cychwyn yn ôl, a gallwch holi pa glybiau chwaraeon sydd ar agor yn eich ardal chi ac os oes unrhyw weithgareddau am ddim y gallwch chi gymryd rhan ynddynt trwy gysylltu â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.

Daliwch i ddysgu: Ffordd dda o gadw ein meddyliau yn weithgar mewn ffordd bositif yw rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu ddysgu sgil newydd. Mae bod gartref am ragor o amser yn gyfle da i wneud hyn. Mae llawer o bobl ifanc yn cymryd mwy o amser i ddarllen, arlunio / paentio / gwaith crefft, coginio / pobi, rhoi cynnig ar chwarae offeryn newydd neu ymarfer canu, dysgu iaith wahanol, ymuno â chlybiau ar-lein a grwpiau eraill ac ati.

Os oes rhywbeth rydych chi'n meddwl y byddech chi'n ei fwynhau, mae’n amser da i roi cynnig arni. Os oes angen rhywfaint o ysbrydoliaeth a syniadau arnoch chi, mae'n dda siarad am hynny gyda theulu a ffrindiau. Gall ysgolion a cholegau gynnig gwybodaeth a syniadau defnyddiol hefyd. Ac mae llawer o wybodaeth ar-lein.

Helpu eraill: Ar hyn o bryd, efallai yn fwy nag erioed, mae cyfleoedd i gefnogi pobl eraill. Mae ymchwil gwyddonol yn dweud wrthym y gall helpu rhywun arall newid sut rydyn ni'n teimlo amdanon ni'n hunain a gwella ein hwyliau a'n hyder. Mae llawer o elusennau a sefydliadau a fyddai wrth eu bodd yn derbyn eich cefnogaeth drwy wirfoddoli, a gallwch ganfod pa gyfleoedd sydd ar gael trwy holi eich Cyngor Gwirfoddoli Lleol.

Weithiau, y pethau lleiaf sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Gall cymryd yr amser i helpu o amgylch y tŷ, gwneud rhywbeth caredig, dweud diolch neu wrando ar ffrindiau a theulu / gofalwyr gael effaith gadarnhaol arnoch chi a'r person arall.

Cymrwch sylw: Ffordd dda o fod yn fwy ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd gyda'ch emosiynau yw meddwl am eich meddyliau a'ch teimladau wrth iddynt ddigwydd a chymryd sylw o'r pethau o'ch cwmpas pan fydd unrhyw newidiadau. Meddyliwch am yr hyn a welwch, a glywch, a aroglwch ac a flaswch o’ch cwmpas a sut yr ydych yn teimlo yn y foment honno. Mae llawer o bobl ifanc yn cael gwell hwyl ar wneud hyn mewn lle tawel a digynnwrf. Bydd rhai hefyd yn ceisio anadlu'n araf ac yn ddigynnwrf, â'u llygaid ar gau, i'w helpu i ymlacio. 

Gall cymryd yr amser hwn ein helpu i beidio â meddwl gormod am rai o'r pethau sy’n digwydd yn y byd ehangach o'n cwmpas, a gall ein helpu i ddelio â phryder a straen. Os hoffech ddysgu mwy, ewch i’r wefan www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/mindfulness/

 

26/11/20
Sut mae dweud wrth rywun fy mod mewn trafferth ac angen cefnogaeth?

Mae trafod sut mae rydych yn teimlo gyda rhywun yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw yn aml yn gallu helpu i weld pethau'n wahanol. Efallai fod ganddyn nhw syniadau am sut i'ch helpu chi i newid pethau yn eich bywyd sy'n eich poeni. Unwaith y byddwch chi'n siarad â rhywun a hwythau’n gwybod beth rydych chi'n mynd drwyddo, gallant fod yno i’ch helpu a chynnig cefnogaeth barhaus.

Mae rhoi pethau mewn geiriau weithiau'n helpu. Mae'n dda dweud beth sydd ar eich meddwl. Gallai siarad â rhywun wneud i chi deimlo nad oes raid ichi ddelio gyda phethau ar eich pen eich hun a gwneud i bethau deimlo'n haws delio gyda nhw.

 

Rhai pethau i’w hystyried:

  • Dewiswch rywun rydych yn teimlo'n ddiogel gyda nhw. (Gall fod yn oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo, yn athro, meddyg teulu, rhieni / gofalwr, hyfforddwr chwaraeon, gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cymdeithasol, rhiant eich ffrind, cwnselydd neu nyrs ysgol, cymydog ac ati)
  • Cynlluniwch yr hyn rydych chi am ei ddweud
  • Ceisiwch ddewis amser i siarad â nhw pan nad ydyn nhw'n brysur yn gwneud rhywbeth arall
  • Cofiwch y gallwch chi ddweud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Rhannwch yr hyn rydych chi'n teimlo sy'n iawn ar y pryd.
  • Gallwch ofyn iddynt ar ddechrau'r sgwrs i gadw'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn breifat a pheidio â'i rannu.

Sut i ddechrau sgwrs

  • Rydw i eisiau siarad â chi am sut rydw i'n teimlo "
  • "Mae hyn yn anodd i mi siarad amdano, ond rydw i wir eisiau dweud wrthoch chi sut rydw i wedi bod yn teimlo."
  • Mae angen rhywfaint o gyngor arna’ i am rywbeth sy’n fy mhoeni.”

 

Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr sut i ddechrau sgwrs, mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud:

  • Ysgrifennu llythyr
  • Sôn am rywbeth arall yn gyntaf
  • Sôn am ffrind sy'n profi rhywbeth tebyg i chi yn gyntaf.