Mae tua 1 o bob 8 o blant a phobl ifanc yn profi problemau ymddygiadol neu emosiynol wrth dyfu i fyny. I lawer, bydd y rhain yn datrys eu hunain gydag amser, tra bydd eraill angen cefnogaeth broffesiynol.
Y peth pwysicaf i'w gofio yw mai chi sy’n adnabod eich plentyn orau, ac os ydych chi'n poeni, ystyriwch a fu newid sylweddol yn eu hymddygiad sydd wedi para am dros gyfnod o amser. Gallai hyn fod gartref, yn yr ysgol neu goleg; gydag eraill neu ar eu pennau eu hunain; neu mewn perthynas â digwyddiadau penodol neu newidiadau yn eu bywyd, gan gynnwys newidiadau oherwydd y pandemig.
Os ydych chi'n bryderus neu'n ansicr, mae llawer o gefnogaeth ar gael, gan gynnwys cymorth proffesiynol . Mae www.dewis.wales yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi. Gallwch hefyd gysylltu gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a’ch Canolfan Plant leol. Mae gwefannau defnyddiol eraill yn cynnwys:
Cegnogaeth i’ch plentyn:
HWB CYMRU: Gweler yma chwe rhestr chwarae i’ch arwain chi at ystod eang o adnoddau ar-lein i’ch helpu chi drwy’r cyfnod clo a thu hwnt. Ym mhob un o’r rhestr chwarae, fe welwch wefannau a ap hunangymorth, llinellau cymorth a mwy, sydd yma i gefnogi eich iechyd meddwl a’ch lles. |
|
CALM HARM: Ap Symudol i helpu pobl ifanc yn eu harddegau i wrthsefyll neu reoli'r ysfa i hunan-niweidio (Am ddim) |
CHILDLINE: www.nspcc.org.uk /0800 1111 |
HARMLESS: Yn cynnig cyngor a gwybodaeth am bobl ifanc a allai fod yn hunan-niweidio neu brofi meddyliau o'r fath. www.harmless.org.uk |
YOUNGMINDS: www.youngminds.org.uk 0808 802 5544 |
SELF HARM UK: Mae'n cynnig lle ar-lein i siarad a gofyn cwestiynau am bryderon yn eu bywyd. www.selfharm.co.uk |
RETHINK MENTAL ILLNESS: www.rethink.org.uk/ 0300 5000 927 |
National Self Harm Network: Mae NSHN yn fforwm ar-lein sy'n caniatáu ichi siarad â phobl eraill mewn amgylchedd diogel, dan reolaeth. www.nshn.co.uk |
THE MIX: 0808 808 4994 |
PAPYRUS: Papyrus HOPElineuk 0800 068 41 41 www.papyrus.org.uk |
YOUNGMINDS CRISIS MESSENGER: Tecstiwch YM i 85258 am gyngor 24/7 am ddim |
HEADSPACE: Ap ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) gyda llawer o wahanol raglenni i gefnogi iechyd meddwl |
SANE: Mae Saneline yn gweithredu o 4.30pm i 10.30pm bob dydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl 0300 304 7000 |
WELLMIND: Datblygwyd yr Ap hwn gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS) ac mae'n helpu gyda symptomau pryder ac iselder. Mae'n ffordd wych o gadw golwg ar eich meddyliau a'ch teimladau. |
CATCH THAT THOUGHT: Mae'r ap hwn yn wych i fonitro meddyliau ac emosiynau anodd , pan fyddwch chi'n eu profi ac i gofnodi ym mhle yr ydych chi pan gewch y meddyliau hynny. |
THE STRESS AND ANXIETY CAMPANION: Mae'r ap yn annog meddwl yn bositif trwy ei broses Therapi Ymddygiad Gwybyddol (Cognitive Behaviour Therapy – CBT) symlach ac yn eich helpu i ddeall sbardunau. |
THRIVE: Mae'r ap hwn yn eich helpu i gasglu'ch meddyliau a deall eich emosiynau. |
MEIC: MEIC yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Gallwch ganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfaoedd anodd, a bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall. Ni fyddwn yn eich barnu a byddwn yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wneud newidiadau - https://www.meiccymru.org/ |
Mind: http://www.mind.org.uk/ |