Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin rhaglen frechu atgyfnerthu Covid-19

08/11/21
A yw'n ddiogel i unigolyn dderbyn dos atgyfnerthu o frechlyn COVID-19 sy'n wahanol i'r ddau ddos cyntaf?

Ydy, mae data o dreial COV-Boost yn dangos bod dosau atgyfnerthu o frechlynnau COVID-19 yn cael eu goddef yn dda ar y cyfan a'u bod yn gallu cynyddu’r ymateb imiwnedd a roddir gan frechlynnau’n sylweddol.

Yn benodol, mae brechlynnau mRNA (Pfizer / Moderna) yn rhoi effaith atgyfnerthu gref, ni waeth a roddodd frechlyn Pfizer neu frechlyn AstraZeneca ar gyfer y cwrs cyntaf. Bydd y mwyafrif llethol o ddosau atgyfnerthu yng Nghymru yn frechlyn mRNA.

08/11/21
A yw ymgyrch i roi dos atgyfnerthu yn golygu nad yw'r brechlynnau'n effeithiol?

Mae’r brechlynnau’n effeithiol iawn, yn enwedig rhag achosion difrifol o’r clefyd. Amcangyfrifir bod ail ddos o’r brechlyn yn diogelu tua 95% o bobl rhag gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty.

Mae data diweddar ar gyfer y DU wedi dangos bod arwyddion cynnar bod lefelau amddiffyn yn gostwng yn fwyaf amlwg ymhlith unigolion hŷn a gafodd eu cwrs sylfaenol o’r brechlyn gryn amser yn ôl.

Gan weithredu mewn modd rhagofalus, mae’r JCVI o'r farn, ar y cyfan, ei bod yn well sicrhau bod lefelau amddiffyn yn cael eu cadw’n uchel yn ystod y gaeaf mewn oedolion sy’n fwy agored i COVID-19 difrifol, yn hytrach na gweithredu rhaglen atgyfnerthu dim ond pan fydd nifer fawr o bobl wedi datblygu COVID-19 difrifol.

08/11/21
A fydd dos atgyfnerthu o frechlyn COVID-19 yn diogelu rhag amrywiolion presennol o'r feirws yn ogystal ag amrywiolion sy'n dod i'r amlwg?

Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau rhag amrywiolion o COVID-19 sy'n dod i'r amlwg a dangoswyd eu bod yn lliniaru difrifoldeb heintiau yn y rhai sy’n dal COVID-19 ar ôl cael y brechlyn.   

Yn ogystal â gweithio'n agos gyda gweithgynhyrchwyr, mae gwyddonwyr yn ceisio deall yn well effaith rhai amrywiolion sy’n peri pryder ar y brechlynnau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae'r rhaglen yn cael ei hadolygu'n gyson yng ngoleuni tystiolaeth a chyngor newydd gan arbenigwyr, gan gynnwys y JCVI.

Ers iddynt gael eu cyflwyno mae brechlynnau wedi bod yn effeithiol iawn o ran atal pobl rhag gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty a marwolaethau oherwydd COVID-19, hyd yn oed pan ddaeth amrywiolyn Delta ddod i'r amlwg. Mae ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru yma: https://www2.nphs.wales.nhs.uk/CommunitySurveillanceDocs.nsf/3dc04669c9e1eaa880257062003b246b/a4f536f72da3962b8025875a0031b3c8/$FILE/Survey%20of%20vaccine%20status%20in%20cases%20and%20hospital%20inpatients.pdf

Bydd y rhaglen atgyfnerthu yn sicrhau bod y rhai sydd fwyaf agored i COVID-19 yn cael yr amddiffyniad mwyaf posibl wrth i fisoedd y gaeaf nesáu, ac yn parhau i ddiogelu'r GIG.

Drwy gydol y pandemig byd-eang hwn, mae'r Llywodraeth wedi cael ei harwain gan y cyngor gwyddonol diweddaraf. Byddwn yn monitro effaith y brechlyn, gan gynnwys yr ymgyrch i roi’r dos atgyfnerthu, yn ogystal ag amrywiolion sy'n peri pryder, ac yn adolygu ein dull gweithredu fel y bo'n briodol.

08/11/21
Os cafodd pobl eu dosau cyntaf o'r brechlyn y tu allan i'r DU, a ydynt yn gymwys ar gyfer dos atgyfnerthu yn y DU?

Mae canllawiau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer clinigwyr y maen angen iddynt benderfynu a ddylid rhoi dos arall o’r frechlyn i unigolion a gafodd eu brechu y tu allan i’r DU. (Canllawiau ar Raglen Frechu COVID-19 ar gyfer gweithwyr iechyd gofal (publishing.service.gov.uk))

Bydd y canllawiau hyn yn nodi a argymhellir rhoi dosau ychwanegol, gan cynnwys dosau atgyfnerthu. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu yn rheolaidd wrth i ragor o ddata ddod i law.

08/11/21
A fydd y rhai a gafodd drydedd dos oherwydd eu bod yn imiwnoataliedig yn gymwys i gael dos atgyfnerthu, a beth yw'r cyfnod a argymhellir rhwng y trydydd prif ddos a'r dos atgyfnerthu?

Mae trydydd dos sylfaenol yn cael ei roi i ddod â lefelau imiwnedd pobl imiwnoataliedig yn nes at y lefelau imiwnedd mae dau ddos yn eu rhoi i unigolion nad ydynt yn imiwnoataliedig.

Mae'r cyngor hwn ar ddosau atgyfnerthu yn annibynnol ar gyngor diweddar gan y JCVI ynghylch rhoi trydydd dos sylfaenol o’r brechlyn i bobl sy’n imiwnoataliedig iawn, ac nid yw’n disodli’r cyngor hwn. Bydd y JCVI yn ystyried yn nes ymlaen a fydd angen dos atgyfnerthu arall arnynt ar ôl cwblhau eu cwrs brechlyn sylfaenol o dri dos.

08/11/21
A fydd angen dos atgyfnerthu i gael PÀS COVID?

Rydym yn ystyried a fyddwn yn cynnwys dosau atgyfnerthu mewn unrhyw bolisi ardystio posibl. Nid oes angen cael dos atgyfnerthu ar hyn o bryd i gael Pàs COVID. Bydd hyn yn cael ei adolygu’n gyson a rhoddir diweddariad maes o law, gan gynnwys a fydd angen cael dos atgyfnerthu i gael Pàs COVID.

08/11/21
A yw pawb sy'n gymwys i gael y brechlyn ffliw am ddim hefyd yn gymwys i gael dos atgyfnerthu o frechlyn COVID-19?

Er y bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw gan y GIG am ddim  hefyd yn gymwys i gael dos atgyfnerthu o frechlyn COVID-19, mae rhai gwahaniaethau bach gan fod y ffliw a COVID-19 yn feirysau gwahanol, ac mae hyn yn golygu bod argymhellion arbenigwyr ynghylch pwy ddylai gael y pigiadau ychydig yn wahanol.

Gall pob carfan sy'n gymwys i gael y brechiad ffliw gael eu brechu ar unrhyw adeg yn ystod y rhaglen frechu rhag y ffliw (sy’n dechrau ym mis Medi).

Yn y cyfamser, y cyngor gan arbenigwyr yw dylai dosau atgyfnerthu o frechlyn COVID-19 gael eu rhoi fesul cam, gan ddechrau gyda'r rhai sydd fwyaf tebygol o fynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i gael COVID-19.

08/11/21
A oes angen i mi adael bwlch rhwng brechlynnau ffliw ac atgyfnerthu?

Derbyniwch gynnig i gael pigiadau ffliw ac atgyfnerthu cyn gynted ag y cânt eu cynnig i chi.  Nid oes angen gadael bwlch rhwng pob pigiad. Mae'r JCVI wedi cynghori ei bod yn ddiogel i frechlynnau ffliw ac atgyfnerthu gael eu rhoi ar yr un pryd neu ar unrhyw adeg ar ôl ei gilydd  - nid oes angen unrhyw fwlch

08/11/21
A yw'r brechlynnau wedi cael eu hawdurdodi i'w defnyddio fel dos atgyfnerthu?

Mae pob brechlyn COVID-19 wedi cael ei awdurdodi o dan Awdurdodiadau Marchnata Amodol sy'n golygu, lle mae data'n cefnogi hyn, y gall y JCVI argymell ei fod yn cael ei ddefnyddio fel dos atgyfnerthu. Ystyriodd y JCVI y manteision a'r risgiau i ddiogelwch cyn argymell bwrw ymlaen â dosau atgyfnerthu.

Ar 9 Medi cadarnhaodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ei bod yn ddiogel rhoi trydydd dos o frechlynnau Pfizer, Moderna ac AstraZeneca.

08/11/21
Pa frechlyn fydd yn cael ei roi yn ystod Rhaglen Atgyfnerthu Brechlyn COVID-19?

Mae Moderna wedi'i gymeradwyo gan reoleiddiwr y DU, sef Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) fel brechlyn diogel a hynod effeithiol i bobl sy'n 12 oed ac yn hŷn.

Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) hefyd wedi argymell ei ddefnyddio, gan nodi'n benodol bod brechlynnau mRNA yn arwain at effaith atgyfnerthu fawr, ni waeth pa frechlyn a roddwyd ar gyfer dos cyntaf neu ail ddos.

Ar hyn o bryd, dim ond yn ein Canolfannau Brechu rhag COVID-19 y caiff Moderna ei gynnig.

Gan fod i frechlyn Moderna ofynion tebyg o ran cludo, storio a pharatoi i frechlyn Pfizer, ni fydd yn bosibl i lawer o feddygfeydd ei roi.

I gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau COVID-19, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

17/09/21
Brechlyn atgyfnerthu i bobl sydd â system imiwnedd gwannach

Os ydych wedi cael gwahoddiad ar gyfer pigiad atgyfnerthu a'ch bod yn dal i dderbyn unrhyw driniaeth sy'n atal imiwnedd neu'ch bod wedi cwblhau'r driniaeth honno yn ddiweddar, e.e. cemotherapi, radiotherapi neu feddyginiaeth sy'n atal imiwnedd, cysylltwch â'ch arbenigedd i drafod amseru eich dos nesaf o'r brechlyn.

15/09/21
Pam fod brechlyn atgyfnerthu yn cael ei gynnig?
15/09/21
Pa frechlyn fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer fy mhigiad atgyfnerthu?
22/10/21
Ymholiadau clinigol neu bryderon ynghylch cael brechiad

Gellir trafod mwyafrif helaeth yr ymholiadau clinigol yn ein canolfannau brechu fel rhan o'ch apwyntiad. Gall ein staff clinigol profiadol dreulio amser yn trafod unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gennych cyn i chi wneud penderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â brechu ai peidio.

Os oes gennych ymholiad clinigol na all aros tan ddiwrnod eich apwyntiad, cysylltwch â'n Cynghorwyr Clinigol Brechiadau COVID-19 yn BCU.CovidVaccineClinicalAdvisor@wales.nhs.uk

Sylwer y dylid defnyddio'r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer ymholiadau clinigol yn unig. Gellir dod o hyd i wybodaeth am gymhwysedd, sut y cysylltir â chi, a beth ddylech chi ei wneud os yw'ch gwybodaeth frechu yn anghywir mewn man arall ar ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin.