O ddydd Llun 13 Mehefin, gall y sawl sy'n gymwys i dderbyn eu pigiad cyntaf, ail bigiad a phigiad atgyfnerthu cyntaf fynd i'n clinigau galw heibio brechu rhag COVID-19 heb apwyntiad. Mae gwybodaeth am ein clinigau galw heibio ar draws Gogledd Cymru ar gael isod.
Os byddai'n well gennych drefnu apwyntiad, ffoniwch ganolfan gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004. Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 1pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.