Neidio i'r prif gynnwy

Eich brechlyn ffliw

Bydd y rhai sy'n wynebu'r risg uchaf o salwch difrifol yn cael cynnig brechlyn blynyddol rhag y ffliw y GIG yr hydref hyn 

Y ffordd orau o amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid rhag y ffliw yw cael brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn. Gall y brechlyn eich atal rhag cael y ffliw, lleihau difrifoldeb y symptomau os byddwch chi yn ei ddal, a helpu atal rhag ei drosglwyddo i bobl sy'n agored i niwed.

Os ydych chi neu'ch anwyliaid yn gymwys i gael brechlyn rhag y ffliw y GIG, gwnewch yn siŵr eich bod ychwanegu at eich amddiffyniad eleni.

Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn. Gallant atal wythnosau o salwch difrifol, a’ch diogelu chi, eich teulu a’r gymuned ehangach.

 

Ydw i'n gymwys a sut mae cael brechlyn rhag y ffliw?

Yr hydref hwn, y brechlyn rhag y ffliw y GIG yn cael ei gynnig i’r grwpiau canlynol. Cliciwch ar y pennawd i ddysgu mwy am sut i gael y brechlyn. Cliciwch ar y pennawd i ddysgu mwy am sut y gall aelodau o bob grŵp gael eu brechiad yma yng Ngogledd Cymru. 

O fis Hydref ymlaen, bydd pob oedolyn mewn carchar yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn rhag y ffliw hefyd gan y tîm gofal iechyd yn y carchar. Mae arweiniad pellach am gymhwystra ar gael gan Lywodraeth Cymru
 

Rhagor o wybodaeth am y brechlyn rhag y ffliw y GIG

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau y GIG rhag ffliw, COVID-19 a RSV, a’r newyddion diweddaraf am ein hymgyrchau frechu, drwy’r dolenni isod.

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau am frechu ffliw neu ss nad ydych wedi cael gwahoddiad i apwyntiad brechu, cysylltwch eich meddygfa neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.

Os bydd angen i chi aildrefnu eich apwyntiad, dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich gwahoddiad. 

Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Rhagor o wybodaeth am ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu.