Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyn ni'n ei olygu wrth niwed cymredol neu difrifol?

  • Niwed Cymedrol: Mae defnyddiwr gwasanaeth yn profi cynnydd cymedrol mewn triniaeth a niwed sylweddol, ond nid yw'n niwed parhaol. Mae'r gofal a ddarparwyd gan y GIG wedi cyfrannu at hyn, neu'n mae'n bosibl ei fod wedi cyfrannu ato. Er enghraifft, er bod nodiadau'r claf yn dweud bod alergedd gan y claf i feddyginiaeth benodol, rhoddir y feddyginiaeth honno i'r claf ac mae'n arwain at adwaith sylweddol sy'n golygu bod angen i'r claf aros yn yr ysbyty am bedwar diwrnod neu fwy cyn iddo wella.
  • Niwed Difrifol: Mae defnyddiwr gwasanaeth yn profi anabledd parhaol neu’n colli ei allu corfforol. Mae'r gofal a ddarparwyd gan y GIG wedi cyfrannu at hyn neu'n mae'n bosibl ei fod wedi cyfrannu ato. Er enghraifft, er bod nodiadau'r claf yn dweud bod alergedd gan y claf i feddyginiaeth benodol, rhoddir y feddyginiaeth honno i'r claf ac mae'n arwain at  niwed i'r ymennydd neu niwed parhaol arall i’w organau.
  • Marwolaeth: Mae defnyddiwr gwasanaeth yn marw ac mae'r gofal a ddarparwyd gan y GIG wedi cyfrannu at y farwolaeth honno neu mae'n bosibl ei fod wedi cyfrannu ati. Er enghraifft, er bod nodiadau'r claf yn dweud bod alergedd gan y claf i feddyginiaeth benodol, rhoddir y feddyginiaeth honno i'r claf ac mae'n arwain at ei farwolaeth.