Neidio i'r prif gynnwy

Roedd gobaith John am gael gadael Ysbyty Treffynnon yn pylu, hynny yw cyn iddo gyfarfod â'r Hyrwyddwyr Adsefydlu

10.01.23

Ar ôl i ffermwr godro syrthio wrth ofalu am ei wraig, credodd y byddai byth yn gadael yr ysbyty, tan iddo gael ei baru gyda thîm arloesol y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Dywedodd John Read ei fod wedi bod yn ‘mynd o gwmpas ei bethau’ wrth wneud paned o de i’w wraig, Kathleen, yn eu cartref yn Brynford, pan syrthiodd ym mis Gorffennaf y flwyddyn ddiwethaf.

I ddechrau, cafodd ei yrru i Ysbyty Glan Clwyd, ond yna cafodd ei symud i Ysbyty Cymuned Treffynnon, lle y cyfarfu â Rebecca Mcconnell, rheolwraig Ward Ffynnon B, a’r meddyg ymgynghorol, Dr KN Ganeshram.

Cafodd lleferydd a symudedd John eu hasesu a chofnodwyd y ddau fel ‘gwael’ ac awgrymodd Dr Ganeshram bod gan y dyn 88 mlwydd oed glefyd Parkinson.

Ar ôl iddo gael ei brofi ac ar ôl i’r diagnosis gael ei gadarnhau, cymerodd John ran mewn cynllun treialu a oedd yn gweld cynorthwywyr gofal iechyd a oedd wedi’u hyfforddi fel Hyrwyddwyr Adsefydlu yn cymryd rôl flaenllaw yn ei ofal.

Y syniad oedd rhoi mwy o gyfle i gynorthwywyr gofal iechyd gymryd rhan yn yr adsefydlu dwys sydd ei angen ar gyfer cleifion fel John.

Y nod oedd cynyddu ei siawns o adennill cymaint o’i fywyd blaenorol yn ôl â phosib a chael adferiad mwy parhaus.

Astudiaeth newydd i cael gwell dealltwriaeth o heriau dementia - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Eglurodd Rebecca: “Esblygodd yr Hyrwyddwyr Adsefydlu o drafodaeth gyda mi , metron a’r staff therapi. Gwnaethom gytuno ein bod angen gofal mwy cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar y claf.

 “Roeddem yn gwybod pe gallem ddod â thîm at ei gilydd i wneud hyn, y byddai’r canlyniadau’n well i gleifion.

“Mae’n rhaid i bobl feddwl yn wahanol ac yn fwy creadigol oherwydd nid oedd y model yn ymddangos fel ei fod yn gweithio.

 “Mae sgiliau a phrofiad eang gennym o fewn ein gweithlu o gynorthwywyr gofal iechyd. Felly, drwy roi’r pŵer iddynt wneud y pethau hyn, bydd yn ein helpu ni a’r cleifion.”

Yn achos John, llwyddodd y feddyginiaeth i adael iddo symud ei goesau, ond roedd ei leferydd a’i symudedd yn parhau i fod yn broblem.

Dyna lle y camodd yr Hyrwyddwyr Adsefydlu i mewn, a aeth ati i helpu i annog John i adennill cymaint o’i leferydd a’i symudedd â phosib.

Dechreuodd yr holl Hyrwyddwyr Adsefydlu eu rôl yn Nhreffynnon yn yr un cyfnod ac maent wedi bod wrthi ers dwy flynedd. O’r cychwyn cyntaf, daethant i gyd i adnabod y manteision o fabwysiadu’r broses hollol newydd hon.

Gweithiodd y therapydd galwedigaethol, Nicki Powell, ochr yn ochr â’r Cynorthwywyr Gofal Iechyd (HCAs), nyrsys a’r ffisiotherapyddion a oedd yn helpu.

Dywedodd: “Mae John wedi profi’n ddi-ffael bod y rhaglen hon yn gweithio. Mae wedi mynd o fod yn hollol ddisymud i allu cerdded.

 “Mae’r rhaglen gyfan yn ymwneud â gwerthfawrogi eraill a’u rolau.”

Dywedodd Tim Dykin (HCA): “O’r eiliad a gyrhaeddais yma, teimlais fy mod yn cymryd rhan. O’r cychwyn cyntaf, teimlais fel rhan o’r tîm ac nid oedd unrhyw hierarchaeth yn bodoli.

“Mae’n waith 24/7 ac mae’n braf ein bod yn gallu adrodd yn ôl i’r therapyddion galwedigaethol, nyrsys a rheolwyr ar sut y mae John yn datblygu.

 “Mae’n hynod braf cael bod yn rhan o hyn. Mae’n teimlo fel ein bod i gyd yn rhan o un tîm mawr.”

Y nod oedd lledaenu mwy o lawenydd o fewn y gweithle a rhoi’r cyfle i’r HCAs wneud gwahaniaeth mawr ym mywydau’r cleifion.

Dywedodd Amy Robinson (HCA): “Gweithiais mewn meddygfa cyn i mi gymryd y swydd hon. Gwnaeth y pandemig i mi fod eisiau cymryd y cam nesaf, pan roedd y byd mewn cynnwrf a finnau’n gaeth tu ôl i’r ffôn.

“Mae wedi fy ngwthio i wneud mwy ac i gael effaith mwy os yn bosib.”

Cydweithrediad gyda Chyngor Sir Ddinbych i wella iechyd meddwl bechgyn ifanc yn ennill gwobr. - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Cafodd y tîm effaith amlwg ar John, sydd nawr yn gallu codi’i hun i fyny’n syth a chael allan o’r gwely, ac sydd wedi cerdded 20 metr yn y gampfa ac sy’n sgwrsio’n hapus am ei brofiad.

Dywedodd: “Weithiau, teimlaf fel peidio â chodi. Mae’n cymryd ychydig o amser i ddechrau, ond mae’r tîm yn fy helpu i fwrw ymlaen.

 “Rwyf yn cael y gofal gorau yma ac nid oes dim y gallwn gwyno amdano. Rwyf yn eithaf hapus.”

Mae John bellach wedi’i ryddhau i wely gofal llai dwys yn Marleyfield House, Bwcle, cyn y gall ailymuno â’i wraig, Kathleen.

Dywedodd Tim Dykins (HCA): “Mae hyn wedi bod yn enfawr i ddweud y gwir. Pan gyrhaeddais yma gyntaf, a dechreuodd Rebecca siarad am Hyrwyddwyr Adsefydlu, roeddwn yn gwybod y byddai pawb ar eu hennill. Rydym yn rhyddhau’r cleifion yn gynt ac yn eu gwneud yn iachach.

 “Pan oedd John yn isel ofnadwy, dywedodd, ‘Nid wyf yn credu y byddaf byth yn cael fy rhyddhau o fan hyn’. Dywedais wrtho y byddai’n cael ei ryddhau, ac mae’n wych gweld hynny’n digwydd nawr.

 “Rwy’n gwneud amser i gael pobl yn y gawod, gan wneud iddynt deimlo’n ffres ac i beidio ag edrych fel eu bod yn amgylchedd yr ysbyty. Mae’n gwneud i chi deimlo’n well. Pam oes rhaid ichi fod yn eich pyjamas trwy’r dydd pan rydych yn yr ysbyty?”

Ychwanegodd Rebecca Mcconnell: “Mae’r ffaith fod John yn gallu mynegi ei hun yn y ffordd y gall ei wneud heddiw, ni allaf bwysleisio ddigon pa mor bell y mae wedi dod.

 “Pan euthum i’r gampfa a gwelais John yn cerdded, bûm yn crio. Cerddodd hyd y bariau i gyd – 20m. Rydym bellach yn ei alw’n ‘John ni’.”

Ychwanegodd Nicki Powell: “Mae gweithio gyda John wedi bod yn bleser llwyr.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)