Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr i Anwyliaid

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio gwasanaeth newydd i helpu pobl gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid tra eu bod yn yr ysbyty.

Er bod amseroedd ymweld wedi'u cyfyngu, gall pobl gadw mewn cysylltiad â pherthnasau neu ffrindiau drwy ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein newydd, Llythyr i Anwyliaid.

Dywedodd Carolyn Owen, Pennaeth Profiadau Cleifion a Defnyddwyr y Gwasanaeth: "Rydym yn gwybod bod y cyfnod hwn yn anodd iawn ac felly nid yw llawer o bobl yn gallu ymweld ag aelodau'r teulu neu ffrindiau sydd yn yr ysbyty.

"Mae'r gwasanaeth e-bost syml hwn yn ei gwneud yn hawdd i bobl gadw mewn cysylltiad. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gwneud beth all fod yn adeg bryderus ac weithiau yn unig ychydig yn haws."

Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw:

  • Lluniwch e-bost newydd ac ysgrifennwch enw ysbyty a ward y sawl sy'n annwyl i chi yn y llinell pwnc
  • Rhowch enw llawn a dyddiad geni'r sawl sy'n annwyl i chi ar ddechrau’r e-bost, heb y wybodaeth hon, ni allwn sicrhau bod y neges yn cyrraedd y derbynnydd
  • Ysgrifennwch eich neges, ond byddwch yn ymwybodol o'r wybodaeth yn yr e-bost a pheidiwch â chynnwys dim sy'n gyfrinachol neu'n rhy bersonol
  • Peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i'r sawl sy'n annwyl i chi pwy ydych chi
  • Gwiriwch eich bod yn defnyddio'r e-bost canlynol a phwyswch 'Anfon/Send' i BCU.LetterToLovedOnes@wales.nhs.uk

Yn anffodus, ni all y gwasanaeth ddarparu ymateb gan anwyliaid ar hyn o bryd. Er mwyn diogelu cyfrinachedd cleifion, nid yw'r gwasanaeth hwn yn gallu rhoi diweddariad am ofal neu gyflwr claf.

Mae Llythyrau i Anwyliaid yn cael ei reoli gan y gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS).

Gellir cael mynediad at y gwasanaeth dros y ffôn hefyd o 9am hyd at 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener (gan eithrio Gwyliau Banc), ar