Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio mewn Partneriaeth i helpu staff i gysylltu ac i gefnogi diogelwch cleifion

Mae datblygu platfform digidol newydd yn llwyddiannus i wella'r ffordd y mae staff yn cyfathrebu wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cyrhaeddiad PBC.

 

Bu Aaron Haley, Rheolwr Cyfathrebu Mewnol, yn gweithio gyda channoedd o gydweithwyr o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd dros gyfnod o 12 mis i ddatblygu platfform rhyngrwyd pwrpasol newydd (BetsiNet) ar gyfer staff.

 

Gwnaeth y cydweithio effeithiol yma arwain at Aaron yn derbyn y Wobr am Weithio mewn Partneriaeth yng Ngwobrau Cyrhaeddiad PBC.

 

Cafodd Aaron ei enwebu gan Katie Sargent, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfathrebu Corfforaethol ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd: "Yn ddi-os, mae cyflwyno'r platfform strwythuredig hwn sydd wedi cael ei wella'n sylweddol, wedi bod yn hollbwysig i weithrediad y Bwrdd Iechyd o ddydd i ddydd. Hebddo, byddai diogelwch cleifion wedi cael ei beryglu'n sylweddol.

 

"Roedd gweledigaeth glir, amynedd a sgiliau technegol a chyfathrebu ardderchog Aaron yn sicrhau bod cydweithwyr yn deall yr ymagwedd a'u cyfrifoldebau eu hunain. Gwnaeth rymuso ac annog cydweithwyr o'r holl wasanaethau sydd â gallu technegol o bob lefel i fod yn gyfrifol am eu cynnwys eu hunain."

 

Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Glyndŵr sy'n noddi'r wobr: "Gwnaeth pob un o'r tri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ddangos enghreifftiau rhagorol o sut gall gweithio mewn partneriaeth fod yn fuddiol i gleifion a staff sy'n gweithio ym mhob rhan o'r GIG.

 

"Llongyfarchiadau i Aaron am ei ymdrechion o ran cydlynu'r gwaith hwn."

 

Mae rhagor o fanylion am y Gwobrau Cyrhaeddiad ar gael yma.