Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu cyflawniadau ein staff GIG ar draws Gogledd Cymru

Caiff cyflawniadau a llwyddiant staff, gwasanaethau a gwirfoddolwyr yn y GIG o bob rhan o Ogledd Cymru eu cydnabod a'u dathlu mewn seremoni wobrwyo yr wythnos hon.

Ar ôl saib o ddwy flynedd, bydd mwy na 450 o staff, noddwyr a gwesteion yn mynychu seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Venue Cymru yn Llandudno nos Wener (21 Hydref).

Nid yw'r digwyddiad blynyddol wedi cael ei gynnal ers 2019 o ganlyniad i bandemig COVID-19 felly bydd yn dychwelyd yn fwy ac yn well nag erioed eleni, yn cynnwys categorïau gwobr newydd i gydnabod yr aberth a’r ymrwymiad a wnaed i gefnogi gwasanaethau'r GIG yn ystod y cyfnod heriol hwnnw.

Dywedodd Jo Whitehead, Prif Weithredwr: "Rydym mor falch o allu cynnal ein Gwobrau Cyrhaeddiad eleni ac i daflu goleuni ar y pethau anhygoel y mae ein staff a'n gwirfoddolwyr wedi'u gwneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Bu'n dipyn o dasg i'r panel beirniadu gan fod cystadleuaeth gref iawn eleni gan fod mwy na 300 o enwebiadau wedi cael eu gwneud. Hoffem longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ac i ddymuno pob hwyl iddynt ar y noson.

"Hoffem hefyd ddiolch i bob un o'n noddwyr sydd wedi ei gwneud yn bosibl i ni gynnal y digwyddiad hwn ac i roi noson arbennig i'w chofio i bawb fydd yn mynychu.

Y rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr derfynol eleni yw:

  • Gwobr Arweinyddiaeth
    • Jane Williams, Rheolwr - Gwasanaethau Cymorth Therapiwtig, Gwasanaethau Anableddau Dysgu, Ysbyty Bryn y Neuadd
    • Beryl Roberts, Pennaeth Nyrsio, Gwasanaethau Canser
    • Sioned Prys Thomas, Rheolwr Practis, Hwb Eifionydd, Criccieth
       
  • Gwobr Tîm
    • Tîm Brechu COVID-19
    • Tîm Adferiad Theatr / Uned Gofal Ôl-Anesthesia (PACU), Ysbyty Glan Clwyd
    • Tîm Prosiect Clinigau Diagnosis Cyflym BIPBC
       
  • Gwobr Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
    • Jacqui Learoyd, Therapydd Iaith a Lleferydd, Carchar y Berwyn
    • Ellen Greer, Cyfarwyddwr Cyswllt Dros Dro Datblygu Sefydliadol
    • Rajeev Metri, Nyrs Gofrestredig a Chydlynydd Ymyriad Coronaidd Sylfaenol trwy'r Croen (PPCI), Ysbyty Glan Clwyd
       
  • Gwobr Trawsnewid ac Arloesi
    • Mohamed Yehia, Wrolegydd Ymgynghorol, Ysbyty Maelor Wrecsam
    • Dr Dan Menzies, Dr John Glen, Berwyn Thomas a Geraint Williams, Ysbyty Glan Clwyd
    • Jeanne Dore, Therapydd Galwedigaethol, Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol, Ysbyty Glan Clwyd
       
  • Gwobr y Gymraeg
    • Dr Sara Hammond Rowley, Gaynor Harding, Stuart Gray, Carys Williams, Gwasanaethau CAMHS, Ysbyty Abergele
    • Dr Anna MacKenzie, Yr Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd
    • Manuela Niemetscheck, Seicotherapydd Celf, Ysbyty Gwynedd
       
  • Gwobr am Wirfoddoli
    • Liz Langdon, gwirfoddolwr ymateb i COVID-19
    • Andy Williams a Buddi y ci, Ysbyty Maelor Wrecsam
    • Lesley Jones, Pediatreg Gymunedol, Ysbyty Maelor Wrecsam
       
  • Gwobr am Bartneriaeth
    • Pat Evans, Hwylusydd Cynnwys Defnyddwyr, Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru
    • Y Tîm Aml-Systemig (MST)
    • Aaron Haley, Rheolwr Cyfathrebu Mewnol
       
  • Gwobr y Filltir Ychwanegol
    • Dawn Owen, Seicolegydd Clinigol, Ysbyty Bryn y Neuadd
    • Mared Jones-Owen, Nyrs Arweiniol IV, Ysbyty Alltwen
    • Gemma Beck, Radiograffydd, Ysbyty Glan Clwyd
       
  • Gwobr Ymateb ac Adferiad COVID-19 - Unigolyn
    • Teena Grenier, Fferyllydd Arweiniol Llywodraethu Meddyginiaethau, Ysbyty Gwynedd
    • Dr Andy Campbell, Arweinydd Clinigol Gofal Critigol, Ysbyty Maelor Wrecsam
    • Viki Jenkins, Uwch Ymarferydd Nyrsio Methiant y Galon, Ysbyty Alltwen
       
  • Gwobr Ymateb ac Adferiad COVID-19 - Tîm
    • Gwirfoddolwyr Cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru
    • Tîm yr Enfys, Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy
    • Uned Gofal Critigol, Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae'r gwobrau blynyddol yn rhan bwysig o'r ffordd yr ydym yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau ein staff a'n gwirfoddolwyr ac mae hyn yn bosibl diolch i'r noddwyr sy'n eu cefnogi. Ein noddwyr eleni yw:

  • Centerprise International (prif noddwr y digwyddiad), Medacs, Unite, Unsain, Read Construction, Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol Bangor, ID Medical, Gleeds, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Gwynedd Forklifts ac Ateb.