Neidio i'r prif gynnwy

Gall ein Linda ni ennill ei ffedog MasterChef a chwifio'r faner i Betsi?

24.04.23

Mae Uwch Ysgrifenyddes yn yr adran Gardioleg yn Ysbyty Glan Clwyd ar fin dechrau ar ei thaith ar y gystadleuaeth goginio penigamp, MasterChef, ar BBC One.

Mae Linda Zouggari yn ymddangos ar y rhaglen yn ystod y drydedd wythnos, nos yfory (25 Ebrill) am 9pm.

Ar ôl dechrau gyda'r Bwrdd Iechyd fel aelod o staff domestig yn 2008, symudodd yn ddiweddarach i swydd ysgrifenyddol o fewn yr adran Dermatoleg, lle y bu am naw mlynedd, cyn cychwyn ar ei rôl fel Uwch Ysgrifennydd yn yr adran Gardioleg bedair blynedd yn ôl.

Mae Linda yn cyfaddef ei bod yn wyliwr brwd o’r rhaglen, a datgelodd mai ei merch wnaeth ei gwthio i ymgeisio ar gyfer y gystadleuaeth.

“Rydw i wrth fy modd yn gwylio MasterChef,” dywedodd. “John a Gregg yw fy hoff gyflwynwyr ar y teledu.

Meddyg bu'n helpu achub miloedd o fywydau yng Ngogledd Cymru yn ymddeol ar ol bron i 40 mlynedd o wasanaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

“Roeddwn newydd wella o ganser y fron, ac wrth i mi nesáu at fy mhen-blwydd yn 60 oed, dywedodd fy merch Kelly, beth am i mi ymgeisio. Meddyliais, beth sydd gennyf i’w golli? Felly, mi es amdani a dyma yw’r canlyniad.”

Wedi byw peth o’i bywyd yn Nhwrci, dywedodd Linda ei bod hi a’i gŵr, Ouassim, yn hoffi blasu pob mathau o fwydydd.

Dywedodd: “Nid oes gennyf ddull penodol o goginio gan fy mod yn hoffi troi fy llaw at wahanol fwydydd o amgylch y byd.

“Cafodd fy ngŵr ei fagu ym Moroco. Mae bwyd ei wlad yn ysbrydoliaeth enfawr ac yn rhywbeth rydw i wrth fy modd yn ei goginio. Rydw i hefyd yn fy ngogoniant yn gwneud pwdinau ac rydw i’n gobeithio y bydd hynny’n plesio Gregg.”

Mae Linda’n meddwl yn ôl am ar yr atgofion hapus yn gwneud pasteiod a chacennau yng nghwmni ei mam ar ôl ysgol, a dyma wnaeth ei hysbrydoli i drosglwyddo'r sgiliau hynny i'w phump o blant.

Cwpl a ddioddefodd dorcalon o golli un efaill yn canmol staff newydd-enedigol am achub ei frawd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Ymddengys nad yw bwyd fyth ymhell o’i meddwl, a’i breuddwyd yw gwneud bywoliaeth o rywbeth sy’n rhoi gymaint o fwynhad iddi.

Dywedodd: "Ers i mi gofio, rydw i wedi bod eisiau fy musnes fy hun - bistro bach dramor, rhywle hyfryd a phoeth. Creu llyfr coginio, teithio, archwilio bwyd, a choginio i’r bobl hynny sy'n agos i mi – yn y bôn, unrhyw beth i'w wneud gyda bwyd."

Yn y bennod nos yfory, bydd Linda yn gobeithio cipio ei ffedog Masterchef o flaen y cyflwynwyr John Torode a Greg Wallace.

Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld sut hwyl y bydd Linda’n ei chael.

Dywedodd: “Mae’n wych bod Linda’n cael y cyfle hwn i serennu ar y teledu. Rydw i’n gwybod fy mod yn siarad ar ran ein 19,000 o aelodau staff wrth ddweud Pob Lwc Linda, rydym ni i gyd yn dy gefnogi.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)