Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg bu'n helpu achub miloedd o fywydau yng Ngogledd Cymru yn ymddeol ar ol bron i 40 mlynedd o wasanaeth

20.04.23

Mae meddyg a fu’n rhan allweddol o sefydlu gwasanaeth arbenigol y Fron yng Ngogledd Cymru yn ymddeol wedi 37 mlynedd o waith yn y GIG.

Penodwyd Dr Andy Gash yn Radiolegydd Ymgynghorol gyda diddordeb arbennig yn y Fron yng Ngogledd Orllewin Cymru ym 1995.

Blwyddyn yn ddiweddarach fe wnaeth ef, gyda'i gydweithiwr Mr Derek Crawford, Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron, greu Gwasanaeth Arbenigol y Fron - gyda sefydlu Clinigau Mynediad Cyflym i Wasanaethau’r Fron yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Llandudno yn rhan o’r gwasanaeth yma.

Dywedodd Dr Gash: “Pan wnaethon ni sefydlu’r clinigau yn y lle cyntaf, roeddem yn gweld 15 o gleifion yr wythnos ond erbyn hyn rydyn ni’n gweld cannoedd o gleifion yr wythnos.

 “Mae diagnosis cynnar o broblemau’r fron yn helpu i sicrhau, os yw canser yn cael ei ganfod, bod  triniaeth lwyddiannus yn fwy tebygol o ddigwydd. Gall fod yn gyfnod pryderus iawn, felly nod ein clinigau yw sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld yn gyflym gan dîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a fydd yn gwneud y diagnosteg a, gan amlaf, yn rhoi’r canlyniadau ar yr un diwrnod.

“Roedd yn fraint cael bod yn rhan o sefydlu’r gwasanaeth hwn yng Ngogledd Cymru a gweld y Radiograffwyr Clinigol Arbenigol yn eu tro yn arwain y gwasanaeth ar ôl derbyn eu hyfforddiant trwyadl a sefyll eu harholiadau dros y naw mlynedd diwethaf.”

Ym 1998, cyflwynodd Dr Gash ddelweddu MRI y Fron yn Ysbyty Gwynedd ac yna Sgrinio MRI y Fron i gleifion â hanes teuluol sydd yn dangos risg uchel.

Yn 2002, Ysbyty Gwynedd oedd yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i brynu'r Mammotome, dyfais biopsi gyda chymorth gwactod. Roedd y Mammotome yn sicrhau diagnosis mwy cywir ac yn cael gwared ar diwmorau anfalaen y fron heb fod angen llawdriniaeth.

Dros y 18 mlynedd diwethaf mae Dr Gash hefyd wedi bod yn Arweinydd Clinigol y rhaglen Bron Brawf Cymru yng Ngogledd Cymru.

“Rwyf wedi gweld yr effaith aruthrol y gall sgrinio ei chael a’r bywydau dirifedi y mae wedi’u hachub. Mae mor bwysig bod pobl yn mynd i gael eu sgrinio pan gânt eu gwahodd - mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol,” ychwanegodd.

Dywedodd Dr Kakali Mitra, Radiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd ac Arweinydd Clinigol Radioleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod Dr Gash yn un o gonglfeini’r maes  delweddu bronnau a bydd pawb yn gweld colled fawr ar ei ôl.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn aelod pwysig iawn o dîm Radioleg Ysbyty Gwynedd, tîm Bron Brawf Cymru a Gwasanaeth y Fron yn y Bwrdd Iechyd dros nifer o flynyddoedd ac wedi cyfrannu’n fawr at ddatblygiad gwasanaeth y fron er budd pobl Gogledd Cymru.

“Byddaf innau a fy nghydweithwyr i gyd yn gweld colled fawr ar ei ôl oherwydd mae wedi bod nid yn unig yn gydweithiwr gwych ond yn ffrind da ac yn fentor i lawer. Dymunwn yn dda iddo yn ei anturiaethau i ddod.”

Mae Dr Gash yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda'i deulu ac i fwynhau'r awyr agored a theithio wrth iddo gychwyn ar ei ymddeoliad.

Dywedodd: “Byddaf yn gweld eisiau’r gwaith tîm yn fawr iawn– rwyf wedi bod yn ffodus i fod wedi gweithio gyda phobl anhygoel dros y blynyddoedd, yn llawfeddygon y fron, yn nyrsys, patholegwyr a mamograffwyr i enwi dim ond rhai.

“Mae wedi bod yn waith caled iawn dros y blynyddoedd ond mae wedi bod gwerth pob ymdrech wrth weld y gwasanaeth yn tyfu ac yn helpu gymaint o’n cleifion yng Ngogledd Cymru.

“Mae’r gwasanaeth wedi caniatáu i ni hefyd ddatblygu ein staff ni ein hunain sydd wedi bod yn wych.”