Neidio i'r prif gynnwy

Lisa Orhan

8.11.2023

Ymunodd Lisa â’r GIG yn 1997 fel gweithiwr cymorth gofal iechyd ar ward orthopedig Ysbyty Glan Clwyd. Treuliodd 10 mlynedd yn y swydd hon, gan ei ddisgrifio’n “waith sy’n rhoi boddhad mawr”.

Dechreuodd ei hyfforddiant nyrsio yn 2002, gan gymhwyso yn 2010, a bu’n gweithio ar y ward strôc ac yn yr adran achosion brys (ED).

Yn ddiweddarach ymunodd Lisa â’r tîm nyrsio ardal (cymunedol) y Rhyl, ac fe gwblhaodd ei Chymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ) ar gyfer nyrsio ardal yn 2016.

Yn 2018 daeth yn rheolwr tîm ar gyfer tîm nyrsio cymunedol Prestatyn, ac erbyn mis Ionawr 2021 daeth yn fetron dros dro yn Sir Ddinbych.

“Credaf fy mod yn freintiedig iawn i garu fy swydd,” meddai. “Rwy’n deffro bob bore ac yn meddwl fy mod yn ffodus i allu gweithio mewn swydd rwyf wrth fy modd yn ei gwneud.

“Yn ystod fy hyfforddiant nyrsio, roedd rhywfaint ohono yn yr ardal. O’r diwrnod cyntaf un yn y Fflint, roeddwn wrth fy modd ac roeddwn yn gwybod y byddwn yn dychwelyd. 

“Rwy’n llwyddo i wneud gwahaniaeth ac rwy’n gwneud llawer o waith gyda’r adran gofal diwedd oes. Dyna pam mae pobl yn cofio pwy ydym, maent mor ddiolchgar am y gofal rydym wedi’i ddarparu.

“Rydym yn cadw pobl gyda’u teuluoedd, yn y man lle maen nhw eisiau bod.”

Datgelodd Lisa fod ganddi reswm hynod deimladwy dros eisiau bod yn Nyrs y Frenhines.

Dywedodd: “Pan roedd mam yn derbyn gofal diwedd oes roeddwn yn dilyn hyfforddiant - ac fe dderbyniodd ofal gan nyrs gymunedol. Sylwodd mam bod y nyrs yn gwisgo bathodyn ac fe ofynnodd beth oedd e.

“Eglurodd ei bod yn Nyrs y Frenhines a beth mae hynny’n ei olygu, felly penderfynais fy mod innau eisiau bod yn Nyrs y Frenhines un diwrnod. Dyna pam mae’r gydnabyddiaeth hon mor arbennig i mi.

“Mae hon yn anrhydedd lwyr i mi - tu hwnt i eiriau mewn gwirionedd. Fy amcan erioed oedd cael fy ngalw’n Nyrs y Frenhines”.