Neidio i'r prif gynnwy

Sharon Manning, MBE

Mae Sharon Manning, a arferai fod yn nyrs canser arbenigol Macmillan yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, yn dod yn MBE am wasanaethau i ofal cleifion canser. ​

Dechreuodd gyrfa ryfeddol Sharon fel glanhawraig yn Ysbyty Glan Clwyd ym 1989. Sylweddolodd ei bod eisiau gofalu am gleifion a daeth yn nyrs gynorthwyol, cyn astudio ar gyfer ei gradd nyrsio - er iddi adael yr ysgol yn 15 oed heb unrhyw gymwysterau. ​

Ar ôl cael 2:1 mewn nyrsio yn 47 oed, daeth yn nyrs staff yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru. ​ Yna cwblhaodd secondiad 10 mis fel nyrs canser yr ysgyfaint, cyn dychwelyd i'r Ganolfan. ​

Yn 2011, daeth Sharon yn Nyrs Arbenigol Canser Macmillan mewn oncoleg gynaecolegol ac aeth ati i feddwl am ffyrdd o wella gofal cleifion.

Un cyflawniad nodedig oedd defnyddio “Rocket Drain”, a oedd yn caniatáu i gleifion a oedd yn gorfod draenio hylif o'r abdomen dro ar ôl tro i drin eu hunain gartref. ​

Yn ogystal â gwella ansawdd bywyd i gleifion, roedd yn cwtogi ar yr oriau teithio ar gyfer mynychu apwyntiadau cleifion allanol bob wythnos.

Mabwysiadwyd y drefn ar draws Gogledd Cymru ac enillodd Sharon Wobr Arloesedd a Chymrodoriaeth Macmillan, am arloesi gyda'r defnydd o'r Gwasanaeth Rocket Drain. ​

Cafodd Sharon wahoddiad hefyd i Downing Street y llynedd, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y GIG yn 75 oed, i gydnabod ei chyflawniadau anhygoel fel nyrs. ​

Dywedodd: “Mae'n fraint a hanner, rwy'n teimlo'n falch iawn ond yn wylaidd o fod wedi derbyn y wobr hon. ​ Rwy'n ei derbyn ar ran yr holl ferched roeddwn i'n gofalu amdanyn nhw a'r teuluoedd roeddwn i'n eu cefnogi, a oedd yn arwyr go iawn. ​

“Rwy’n gobeithio y bydd y wobr hon yn rhoi cyfeiriad ac ysgogiad i’r genhedlaeth iau o nyrsys lwyddo yn y blynyddoedd i ddod yn eu gyrfaoedd dewisol.”