Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod Pump Penigamp yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin Charles

05.01.2023

Mae pum cydweithiwr yn y Bwrdd Iechyd wedi cael eu cydnabod ar Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin.

Cyhoeddwyd y gwobrau, sy’n dathlu cyfraniadau naill ai at ddiddordebau allanol neu waith o fewn y GIG, ychydig cyn dathliadau Blwyddyn Newydd 2024. ​

 Llongyfarchodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Carol Shillabeer, y pump a restrir isod. Dywedodd: “Mae’r gwobrau hyn yn dathlu nid yn unig y cyfraniadau y mae’r cydweithwyr hyn wedi’u gwneud i’n cleifion neu eu cymunedau ehangach, ond y bobl hynny sydd wedi ymrwymo i ofal iechyd. ​

“Rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy o fewn ein rhengoedd nad ydyn nhw byth yn derbyn y math hwn o gydnabyddiaeth ond sy'n gwneud cyfraniadau anhygoel i les ein rhanbarth, bob dydd.

“Rwy’n falch iawn o gael gweithio mewn bwrdd iechyd a all gyfrif pobl o’r fath yn ein plith ac rwyf am longyfarch pob un o’r cydweithwyr hyn ar eu cydnabyddiaeth haeddiannol iawn. ​ Maent yn ysbrydoliaeth i ni gyd."