Neidio i'r prif gynnwy

Kath Kynaston, BEM

Dim ond blwyddyn yn ôl y ymunodd Kath Kynaston â'r Bwrdd Iechyd, fel ysgrifennydd meddygol yn Ysbyty Gwynedd. ​ Yn wreiddiol o Groesoswallt, Swydd Amwythig, daeth â'i chariad at nofio gyda hi a dogn go dda o ysbryd cymunedol.

Mae hi'n derbyn ei Medal Ymerodraeth Brydeinig am wasanaeth i fyd nofio ac i'r gymuned yn Swydd Amwythig. ​ Dechreuodd Kath helpu yng Nghlwb Nofio Amatur Amwythig pan ddechreuodd ei mab ieuengaf gymryd rhan mewn cystadlaethau nofio yn 2008. ​

Cymerodd nifer o rolau cyn cael ei hethol yn Gadeirydd y clwb yn 2015 ac yn y pen draw fe’i hetholwyd yn Llywydd Cymdeithas Nofio Amatur Swydd Amwythig. ​

Roedd Kath yn arweinydd (Brown Owl) ar gyfer ei grŵp Brownis lleol, yn cynnal grŵp ieuenctid yn Swydd Amwythig a hyd yn oed yn golygu ei chylchlythyr pentref.

Ers symud i Gaergybi i ymddeol, teimlai Kath yr angen i wneud rhywbeth defnyddiol felly mae'n gwirfoddoli yn y siop RNLI leol a daeth yn ysgrifennydd meddygol yn Ysbyty Gwynedd. ​

Dywedodd: “Rwyf am ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i’m henwebu. Rwy'n teimlo'n falch iawn o dderbyn yr anrhydedd hon.” ​