Neidio i'r prif gynnwy

COVID Hir

Mae arwyddion a symptomau syndrom ôl-COVID-19 (a elwir hefyd yn COVID Hir) yn datblygu yn ystod neu ar ôl haint sy'n gyson â'r firws sy'n parhau am fwy na deuddeg wythnos a heb esboniad yn ôl diagnosis arall.  

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gwybodaeth defnyddiol i helpu pobol sydd wedi cael ei heffeithio gan y pandemig i ddiwallu anghenion pobol sy'n agored i niwed yn eu rhanbarth.

Mae'r cyflwr fel arfer yn ymddangos fel clwstwr o symptomau, sy'n aml yn gorgyffwrdd, a all newid dros amser ac sy’n effeithio ar unrhyw system o fewn y corff.  Mae hefyd yn nodi y gall llawer o bobl sydd â syndrom ôl-COVID brofi poen cyffredinol, blinder, tymheredd uchel parhaus a phroblemau seiciatrig hefyd.

Symptomau a all godi ond nad yw'n gyfyngedig iddynt: Cardiofasgwlaidd, Resbiradol, Gastroberfeddol, Niwrolegol, Cyhrysgerbydol, Metabolig,  Arennol, Dermatolegol, Otolaryngolegol, Systemau awtonomig a haematolegol, Yn ychwanegol at broblemau seiciatrig, poen cyffredinol a blinder a thwymyn parhaus. Gwybodaeth a ddarparwyd gan NICE, SIGN a RCGP

Sgôp canllaw COVID-19: rheoli effeithiau tymor hir COVID-19, PDF