Neidio i'r prif gynnwy

Ailddechrau ein gwasanaethau yn ddiogel yn ystod COVID-19

Yn ystod y pandemig COVID-19 rydym wedi parhau i ddarparu triniaeth a gofal brys i'n cleifion, er bod llawer o'n triniaethau a'n hapwyntiadau rheolaidd wedi cael eu gohirio. 

Wrth i ni weld llai o achosion o COVID-19 yn ein hysbytai, rydym yn cynllunio i ailddechrau llawer o'n gwasanaethau rheolaidd sydd wedi cael eu gohirio yn araf, er y byddwch yn gweld bod y ffordd yr ydym yn cynnal y rhain yn awr wedi newid i hwyluso'r mesurau cadw pellter cymdeithasol.  

Yn unol â sefydliadau eraill y GIG, byddwn yn trefnu triniaethau cleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Fodd bynnag, bydd ar gleifion angen bod yn barod i aros yn hirach na’r disgwyl cyn y pandemig COVID-19.

Mae Orthopaedeg ymysg y gwasanaethau hynny sy’n ailddechrau’n araf deg

Mae triniaethau wedi ailddechrau yn Ysbyty Spire Yale yn Wrecsam ac mae llawfeddygon yn gweithredu ar y cleifion mwyaf brys sy’n aros am lawfeddygaeth y glun, pen-glin, ysgwydd, llaw a’r droed.  

Mae triniaethau achos dydd wedi ailddechrau yn Ysbyty Abergele ac i fod i ddechrau yn Ysbyty Gwynedd yn gynnar ym mis Medi.  

Dywedodd Mr Bala Ramesh, Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Trawma ac Orthopaedeg a Llawfeddyg Orthopaedig Ymgynghorol: “Gan fod COVID-19 yn dal i gylchredeg yn ein cymunedau nid yw’n bosibl i ni ddechrau ein gwasanaethau fel yr arfer.

“Fodd bynnag, mae yna gyflyrau cyhyrysgerbydol sydd angen mewnbwn llawfeddygol brys, fel cyflyrau llaw cymhleth, anafiadau chwaraeon a chyflyrau’r ysgwydd.

“Rydym wedi cydweithio i ddod o hyd i’r ffordd fwyaf diogel o ailddechrau ein gwasanaethau yn araf deg ac yn blaenoriaethu ein cleifion mwyaf brys.

“Rydym yn falch ein bod yn gallu cynnig darpariaeth cleifion mewnol yn Ysbyty Spire Yale a bod llawdriniaethau yn barod wedi ailddechrau yno yn ystod mis Awst.”

Disgwylir y bydd llawfeddygaeth achos dydd brys yn ailddechrau yn Ysbyty Gwynedd yn gynnar ym mis Medi gyda llawfeddygaeth ddewisol brys wedi’i gynllunio ar gyfer ddiwedd y mis.

Dywedodd Mr Haroon Mumtaz, Arweinydd Clinigol ar gyfer Orthopaedeg yn Ysbyty Gwynedd a Llawfeddyg Orthopaedig Ymgynghorol: “Diogelwch ein cleifion yw ein prif flaenoriaeth. Rydym wedi bod yn cydweithio i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn ailddechrau gofal dewisol wrth barhau i fyw â COVID-19.

“Rydym yn deall y bydd ein cleifion yn pryderu ac rydym eisiau rhoi sicrwydd iddynt nad ydym wedi anghofio amdanynt.

“Rydym yn edrych ymlaen at ailddechrau ein hachosion dydd a fydd ar gyfer ein cleifion sydd angen llawfeddygaeth frys ar y breichiau a choesau gyda’r bwriad o ddarparu llawfeddygaeth ddewisol i gleifion mewnol tuag at ddiwedd y mis.”

Dechreuodd llawfeddygon o Ysbyty Maelor Wrecsam lawfeddygaeth ddewisol ac achos dydd yn gynharach y mis hwn yn Ysbyty Spire Yale.

Dywedodd Mr Ian Starks, Arweinydd Clinigol ar gyfer Orthopaedeg yn Ysbyty Maelor Wrecsam a Llawfeddyg Orthopaedig Ymgynghorol: “Roeddem yn falch o ddechrau ein rhestrau yn Ysbyty Spire Yale yn gynharach y mis hwn ar gyfer ein cleifion mwyaf brys sy’n aros am lawfeddygaeth arthroplasti a thriniaethau brys eraill.

“Mae’n bwysig ein bod yn ailddechrau llawfeddygaeth mewn ffordd ddiogel yn ystod y cyfnod ansicr hwn gan ein bod eisiau gwneud yn siŵr bod ein cleifion yn ddiogel pan fyddant yn dod i mewn i’r ysbyty am eu triniaeth.”

Dywedodd Dr Kate Clark, Cyfarwyddwr Meddygol Gofal Eilaidd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Er bod COVID-19 wedi amharu’n sylweddol ar ein gwasanaethau rydym wedi parhau i flaenoriaethu’r cleifion hynny ar draws Gogledd Cymru sydd angen y gofal mwyaf brys, fel y rheiny sydd angen llawfeddygaeth canser.

“Yn araf deg, rydym yn awr yn dechrau ailddechrau rhai o’n gwasanaethau rheolaidd sydd wedi cael eu hoedi yn ystod y pandemig.

“Rydym wedi blaenoriaethu rhestrau aros fel y gallwn gynnig mynediad i gleifion at driniaethau yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Fodd bynnag, bydd rhai cleifion yn aros yn hirach i gael eu gweld a’u trin.

 “Mae’n bwysig ein bod yn ailddechrau ein gwasanaethau lle y gallwn, ond dim ond lle gellir gwneud hynny’n ddiogel – mae’r firws yn dal i gylchredeg a’n blaenoriaeth yw cadw ein cleifion a’n staff mor ddiogel â phosibl.”

Gellir canfod mwy o wybodaeth am sut mae’r Bwrdd Iechyd yn ailddechrau gwasanaethau yma: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/y-diweddaraf-ar-wasanaethau/

Sylwer: Os ydych yn cael llawfeddygaeth ddewisol yn un o’n hysbytai, byddwch yn cael prawf COVID-19 a gofynnir i chi hunan ynysu cyn cael eich derbyn i’r ysbyty.

Os oes unrhyw newid wedi bod yn eich cyflwr clinigol, cysylltwch â’ch meddyg teulu.

Os oes gennych fwy o gwestiynau, defnyddiwch y wybodaeth ar eich llythyr(au) apwyntiad i gysylltu â’r gwasanaeth perthnasol. Os nad yw’r wybodaeth hon gennych, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion a fydd yn gallu eich helpu.