Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â gwirfoddolwyr garddio i wella'r mannau gwyrdd yn Ysbyty Maelor Wrecsam

06/06/2024

Ymgasglodd Garddwyr Cymunedol Wrecsam am y tro cyntaf ddydd Sadwrn i wella’r gerddi o gwmpas Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae’r grŵp gwirfoddolwyr a sefydlwyd yn ddiweddar wedi derbyn cyllid gan Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT) a’i nod yw adnewyddu a phlannu yn yr ardaloedd gwyrdd o amgylch y tair prif fynedfa i’r ysbyty, sef y Brif Fynedfa, Mynedfa’r Adran Achosion Brys a Mynedfa B, i greu amgylchedd tawel i gleifion, ymwelwyr a staff.

Dywedodd cadeirydd y grŵp, Ruth Tesdale: “Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig oedd hyn i ni. Daeth ymdrechion pawb a gymerodd ran ynghyd mewn diwrnod cymunedol. Rwy'n gwybod ei bod wedi bod yn daith hir ac anodd i bawb ond ar ddydd Sadwrn roedd gweld y gwenau ar wynebau'r gwirfoddolwyr a gweld eu hymdeimlad o falchder yn yr hyn a gyflawnwyd werth yr ymdrech yn sicr.

“Wrth gwrs mae cryn dipyn o waith i’w wneud eto ond mae’r dechrau hwn yn addawol. Mae gan ein dylunydd gerddi, Stuart Francis, o Garden Wilding, weledigaeth anhygoel ar gyfer y gerddi sy’n ein galluogi i greu gofodau hardd mewn cytgord â natur ac yn ymgorffori popeth sy’n dda yn y gerddi hynny eisoes.
 
“Hoffwn ddiolch i bob un o’n gwirfoddolwyr ac edrychwn ymlaen at gydweithio i wneud Ysbyty Maelor Wrecsam yn lle y gallwn i gyd ymfalchïo’n ynddo, wrth iddo ddod yn enghraifft o sut y gallai cymunedau a chyrff statudol gydweithio er budd pawb."

Dywedodd Ian Donnelly, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymuned Iechyd Integredig y Dwyrain: “Rydym wrth ein bodd bod y grŵp wedi dewis helpu i wella ein mannau gwyrdd yn yr ysbyty. Mae’r grŵp wedi gweithio’n agos gyda’n hystadau, diogelwch a rheolwyr i nodi meysydd yr oedd angen eu gwella er mwyn creu argraff gyntaf a chroeso gwell i’r safle.”

“Ar ran ein staff i gyd, hoffem ddiolch i bob gwirfoddolwr sydd wedi torchi llewys ac wedi cefnogi’r grŵp, yn ogystal ag am y cyllid gan Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT).

“Gallwn eisoes weld gwelliant ac edrychwn ymlaen at weld newidiadau pellach ar y tir a fydd yn helpu i greu ardaloedd mynediad tawelach a mwy deniadol i bawb.”

Mae croeso i bawb ymuno â’r grŵp cymunedol, os hoffech ragor o wybodaeth ewch i   www.wrexhamcommunitygardeners.org.