Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Hyfforddiant Dysgu Cymraeg y Bwrdd Iechyd yw'r cyntaf i gael cydnabyddiaeth arbennig trwy wobr genedlaethol

Mae Tîm y Gymraeg y Bwrdd Iechyd wedi cael gwobr Cyflogwr y Flwyddyn Cymraeg Gwaith 2024 gan y Ganolfan Dysgu Cymru Genedlaethol yn ystod digwyddiad dathlu diweddar.

Cafodd y tîm gydnabyddiaeth am ei gynllunio strategol rhagorol, a'i ddull arloesol a blaengar i sicrhau bod y gweithlu yn cael cyfleoedd i ddysgu Cymraeg, gan sicrhau effaith buddiol iawn i gleifion.

Dyma’r tro cyntaf i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gynnal digwyddiad o’r fath a chyflwynwyd y gwobrau yng Ngwesty’r Park Plaza yng Nghaerdydd.

Dywedodd Eleri Hughes-Jones, Pennaeth Gwasanaethau'r Gymraeg. “Roeddem yn falch iawn o dderbyn y wobr clod a roddwyd i gydnabod ein dull cynllunio strategol i ddatblygu'r cynllun drwy gynorthwyo ein staff yn rheolaidd i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg i ddarparu gofal sy'n briodol o ran iaith i gleifion.

“Mae cynyddu ein gallu i gynnig gwasanaethau yn yr iaith a ffafrir gan gleifion yn bwysig i ni, ac yn sicrhau ein bod yn cefnogi strategaethau cenedlaethol i gyflawni hyn. Mae’r tîm wedi teithio'r ail filltir i annog ein staff i ddod yn siaradwyr Cymraeg newydd, gan eu galluogi i ddefnyddio eu sgiliau i gynnig dewis iaith i’n cleifion.

“Mae’n bleser cael cydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â nhw.

“Daeth tri aelod o'r staff i'r digwyddiad yng Nghaerdydd i dderbyn y wobr arbennig hon. Roedd yn gyfle hefyd i rwydweithio â sefydliadau a darparwyr eraill a rhannu arferion da.”

Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymhlith y sefydliadau cyntaf i gyfranogi yng nghynllun arloesol y Ganolfan, Cymraeg Gwaith. 

Nod y cynllun yw cryfhau sgiliau Cymraeg mewn gweithleoedd, ac mae’r Bwrdd Iechyd wedi teithio'r ail filltir wrth gofleidio’r cyfleoedd Dysgu Cymraeg sy’n rhan o’r cynllun.  Maent yn llwyr haeddu cydnabyddiaeth gan y Ganolfan fel Cyflogwr Cymraeg Gwaith 2024.

“Mae’n bleser cydweithio â’r Bwrdd, a gweld y cynnydd yn y niferoedd sy’n siarad a defnyddio’r iaith yn eu gwaith hollbwysig gyda’r cleifion.  Llongyfarchiadau i’r holl dîm, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r bartneriaeth bwysig hon.”

Ers 2017, mae Bwrdd Iechyd yn cael nawdd gan gynllun Cymraeg Gwaith ac yn cydweithio â'r cynllun i wella'r ddarpariaeth hyfforddiant dysgu Cymraeg sydd ar gael i staff, ar ben yr hyn a gynigir gan ei ddau diwtor Cymraeg. 

Mae cydweithio â Chymraeg Gwaith wedi galluogi'r tîm i gynnig hyfforddiant dysgu Cymraeg ar-lein (gan gynnwys cyrsiau blasu a chyrsiau llawn), galluogi dysgwyr i fynychu cyrsiau preswyl yn Nant Gwrtheyrn a chyflogi Swyddog Cynorthwyo Dysgwyr y Gymraeg amser llawn.